Dadorchuddio cerflun yn Llanymddyfri i ddathlu Williams Pantycelyn
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun i nodi cysylltiad yr emynydd a'r bardd William Williams, Pantycelyn, wedi cael ei ddadorchuddio yng nghanol tref Llanymddyfri.
Rhai o ddisgynyddion y Pêr Ganiedydd, Cecil a Cynthia Williams, fu'n gyfrifol am dorri'r rhuban ar gerflun trawiadol Gideon Petersen - cerflun sydd wedi ei wneud o ddur.
Roedd yna gwyno gan rai Cymry blaenllaw nad oedd digon o gydnabyddiaeth wedi bod i Williams Pantycelyn adeg trichanmlwyddiant ei eni yn 2017, gyda'r Athro Derec Llwyd Morgan yn arbennig o feirniadol o Lywodraeth Cymru.
Fe ysgrifennodd y Pêr Ganiedydd dros 900 o emynau a 90 o weithiau llenyddol amrywiol ac arloesol, cyn ei farwolaeth yn 1791.
Y gred yw bod Pantycelyn - oedd hefyd yn gwnselydd i filoedd o bobl ar draws Cymru - wedi teithio 80,000 milltir o amgylch y wlad i hybu'r efengyl, a hynny am 40 mlynedd yn ddi-dor.
Cafodd ei eni ar Fferm Pantycelyn, ger Pentre-tŷ-gwyn ar gyrion Llanymddyfri, a dyma y cerflun cyntaf yn y dref i'w goffáu.
Er bod Capel Coffa William Williams yn y dref, teimlad y rheiny sy'n gyfrifol am y cerflun oedd bod angen rhywbeth mwy amlwg, ac mewn lleoliad ble byddai mwy o bobl yn ei weld.
Un a fu'n annerch y gynulleidfa oedd yr Athro Emeritws E Wyn James sydd yn arbenigwr ar William Williams a rhai o ffigyrau eraill amlwg y Diwygiad Methodistaidd yn y 18fed ganrif.
Dywedodd wrth y dorf mai Williams Pantycelyn oedd un o'r Cymry pwysicaf erioed: "Yn sicr iawn, fe gydiodd y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru a Williams Pantycelyn yn un o brif arweinwyr y mudiad yna ac yn brif lladmerydd o safbwynt rhoi profiadau i Gristnogion a rhoi eu ffydd mewn geiriau. Roedd e'n helpu nhw i fynegi eu ffydd.
"Ni'n dal i ganu nhw heddi. Allan o'i emynau - 850 o emynau Cymraeg - mae 80 ohonyn nhw yn Caneuon Ffydd - cyfran uchel iawn.
"Mae ei waith a'i feddwl wedi dylanwadu ar feddwl y Cymry dros ddwy ganrif a mwy. Roedd yr addoli yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y Gymraeg wedi mynd yn iaith enaid i bobl."
Ychwanegodd yr Athro James ei fod yn croesawu bod cerflun i gydnabod Williams Pantycelyn wedi ei godi o'r diwedd.
"Mae'n braf iawn cael y cerflun yng nghanol Llanymddyfri mewn lle mor amlwg i dynnu sylw at un o frodorion pwysicaf nid yn unig Llanymddyfri ond Cymru gyfan... mae'n ffigwr o bwysigrwydd rhyngwladol."
Cafodd yr ymgyrch i gael cerflun i goffáu William Williams Pantycelyn ei lansio yn 2017, wrth ddathlu 300 mlynedd ers ei enedigaeth.
Lansiwyd deiseb, a chafodd ei harwyddo gan rai miloedd o bobl, ond oherwydd effeithiau'r pandemig mae'r ymgyrch wedi cymryd chwe blynedd i ddwyn ffrwyth.
Y cynghorydd tref a sir, Handel Davies, sydd hefyd yn faer Llanymddyfri, oedd un o'r rheiny fu'n arwain yr ymgyrch.
"Ni wedi bod ar daith i geisio hysbysebu mwy am yr hanes cyfoethog sydd gyda ni yn yr ardal, a'r person mwyaf cyfoethog sydd gyda ni ydy William Williams Pantycelyn," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.
Ychwanegodd fod y dadorchuddiad wedi'i amseru yn fwriadol cyn i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r dref.
"Oedden ni moyn e wedi gorffen cyn bod yr Eisteddfod yn dod oherwydd ei bwysigrwydd i Gymru.
"Y gobaith yw y bydd e'n bach o fagnet i dynnu pobl mewn i'r dref."
Roedd un o ddisgynyddion William Williams Pantycelyn, Cecil Williams, yno ar gyfer y dadorchuddio ddydd Gwener.
Mae'n byw yn yr hen gartref teuluol ym Mhantycelyn, ac yn dweud fod pobl "o bob cwr o'r byd" yn dod yno i weld y cartref.
"Mae'r gofeb yn gerflun hardd," meddai. "Dwi'n credu bod o'n neis bod trigolion lleol yn ei gofio.
"Mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd - De Corea, yr Unol Daleithiau - i weld cartref William Williams, a braf ydy cael rhywle yn y dref ei hun i'w goffau."
'Dim arian gan Lywodraeth Cymru yn siom'
Cyngor Tref Llanymddyfri sydd wedi talu am y gwaith o greu'r cerflun sy'n arddangos rhai o eiriau emynau enwocaf Williams Pantycelyn.
Yn ôl Maer Llanymddyfri, y Cynghorydd Handel Davies, doedd yna ddim cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, er mawr siom iddo.
"Aethon ni at Lywodraeth Cymru ond na oedd yr ateb. Troi wedyn at y cyngor tref, a penderfynon ni gomsiynu Gideon Peterson.
"Mae'r daith wedi dod i ben cyn y Steddfod, felly mae'r amserlen yn briodol iawn. Fi'n credu bod e'n drawiadol. Mae pawb sydd wedi gweld e yn hoff iawn ohono."
Mae Handel Davies yn cyfaddef bod diffyg cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn gryn siom.
"Wrth gwrs bod e," meddai.
"Wrth glywed yr Athro Wyn James yn siarad heddi', dyw e ddim jyst yn enwog yn Llanymyddyfri a Chymru, mae'n fyd enwog.
"Mae pawb yn canu Bread of Heaven. Os nag yw Llywodraeth Cymru neu'r Senedd yn gallu talu nôl gyda rhyw fath o gof, yna mae e bach yn siomedig."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth wedi bod ac yn parhau yn gefnogol i'r prosiect ond ar yr adeg y gwnaed y cais bod yr arian a allai fod ar gael wedi ei neilltuo i brosiectau eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2017
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2017