Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi marwolaeth Keely Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad a laddodd merch 15 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bu farw Keely Morgan ar ôl cael ei tharo gan gar ar Heol Trelai, Caerdydd am tua 21:30 ddydd Llun.
Cafodd dyn 40 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi'r digwyddiad.
Mae bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mewn datganiad dywedodd teulu Keely ei bod yn ferch "synhwyrol a charedig" a bod ganddi "wên hardd" fyddai'n goleuo pob ystafell.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023