Pedwaredd gêm gyfartal i Forgannwg yn Swydd Efrog

  • Cyhoeddwyd
Adam LythFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Y capten, Adam Lyth, oedd seren Swydd Efrog

Gêm gyfartal arall oedd hanes Morgannwg wrth i Swydd Efrog ddal ymlaen er gwaethaf rhai nerfau hwyr i gyrraedd 412-9.

Y tîm o Gymru oedd ar y blaen am y rhan helaeth o'r tridiau cyntaf, gyda pherfformiad bowlio gwell yn eu hymgais i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn tîm sydd heb ennill yn y Bencampwriaeth ers Ebrill 2022.

Ond oedd rhaid bodloni ar bedwaredd gêm gyfartal yn olynol.

Gyda thîm y brifddinas wedi gosod nod o 492 mewn enw, nid oedd Swydd Efrog yn edrych o dan bwysau tan y sesiwn olaf wrth i'r capten, Adam Lyth serennu.

Gorffennodd Lyth gyda 24 pedwar a thri chwech, gan oroesi 220 tafliad.

Ond roedd wicedi i James Harris (3-87) a Jamie McIlroy (2-57) wedi cadw gobeithion Morgannwg yn fyw tan y bêl olaf.

Ar ôl y gêm dywedodd James Harris o Forgannwg wrth adran chwaraeon BBC Cymru: "Mae yna lawer o emosiynau, ni'n hapus iawn gyda'r ffordd wnaethon ni chwarae dros y pedwar diwrnod diwethaf ond yn siomedig iawn na lwyddon ni i gael y fuddugoliaeth, gan y byddai un wiced arall wedi golygu llawer.

"Roedden ni wastad yn meddwl pe baen ni'n gwneud y pethau iawn yn ddigon hir y bydden ni'n agos at ddiwedd y dydd, clod i Adam ond roedd gennym ni gwpl o gyfleon a phe baen ni wedi eu cymryd efallai y byddai wedi bod yn wahanol."

Pynciau cysylltiedig