Gwagio adeilad Prifysgol Caerdydd ar ôl i gemegion ollwng

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau brys a phobl tu allan i brif adeilad Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Brifysgol gadarnhau fod parafeddygon yn gweld "nifer fach" o bobl, rhag ofn

Mae staff a myfyrwyr wedi gorfod gadael prif adeilad Prifysgol Caerdydd ar ôl i gemegion ollwng.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11:15 fore Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd y bydd yr adeilad yn parhau ar gau am gyfnod a bod y sefyllfa dan reolaeth.

Bydd yn parhau ar gau "nes ein bod yn hyderus nad oes risg i iechyd a diogelwch".

Doedd yna ddim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu ond cafodd "nifer fach" o bobl eu gweld rhag ofn gan barafeddygon.

Dywed Heddlu'r De fod y ffordd rhwng Maes yr Amgueddfa a Theras Cathays wedi ei chau dros dro, ac maen nhw'n cynghori pobl i gadw draw o'r ardal.

Pynciau cysylltiedig