Nyrsys yn gwrthod cynnig tâl 'gorau a therfynol' Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd nyrsys yng Nghymru yn parhau i streicio wedi iddyn nhw wrthod cynnig tâl "gorau a therfynol" Llywodraeth Cymru i geisio dod â'r anghydfod i ben.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghymru ddydd Mercher fod ei aelodau wedi gwrthod cynnig diweddaraf y llywodraeth.
Mae hynny'n golygu y bydd nyrsys yn streicio ar 6 a 7 Mehefin, ac yna 12 a 13 Gorffennaf.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud mai eu cynnig diweddaraf oedd yr un "gorau a therfynol".
Roedd yn cynnwys taliad untro o 3%, wedi'i ôl-ddyddio i'r llynedd, a 5% yn ychwanegol o ddechrau'r mis hwn.
53% yn pleidleisio yn erbyn
Roedd rhai undebau wedi annog eu haelodau i dderbyn y cynnig hwnnw, ond doedd yr RCN heb gynghori aelodau pa ffordd y dylen nhw bleidleisio.
Fe wnaeth 47% o'r rheiny a bleidleisiodd dderbyn y cynnig diweddaraf, tra bod 53% wedi gwrthod.
O ganlyniad i'r bleidlais ddiweddaraf, mae'r RCN wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan er mwyn ceisio ailagor y trafodaethau.
Mae disgwyl i undebau eraill gyhoeddi canlyniadau eu pleidleisiau nhw o fewn y pythefnos nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad i streicio eto heb glywed canlyniad pleidleisiau'r undebau eraill.
Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley, fod y "penderfyniad diweddaraf yn ein gwneud yn fwy penderfynol fyth i sicrhau cynnig tâl derbyniol ar gyfer dyfodol y proffesiwn".
"Mae nyrsys wastad yn gweithredu er budd y cleifion. Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithredu o'u plaid nhw nawr.
"Rydw i wedi gofyn am ailagor trafodaethau ar unwaith gyda'r Gweinidog Iechyd, fel nad oes angen i'n haelodau ddychwelyd i'r llinell biced.
"Streicio ydy'r opsiwn olaf pob tro, ond rydyn ni wedi cael ein gwthio yma unwaith eto.
"Os na fydd mwy o drafodaethau, ni fyddwn yn oedi cyn streicio eto, gan weithredu'n gryfach na'r hyn sydd wedi bod eisoes."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith yr aelodau, rydym yn siomedig gyda chanlyniad y bleidlais.
"Rydym hefyd yn siomedig gyda'r cyhoeddiad am weithredu diwydiannol pellach cyn clywed canlyniad pleidleisiau undebau llafur eraill a chytuno ar safle terfynol ar y cyd ar Bwyllgor Busnes Fforwm Partneriaeth Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023