Gweinidog wedi galw undeb nyrsio yn 'filwriaethus'
- Cyhoeddwyd
Fe ddywedodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru bod undeb nyrsio'n "eithriadol o filwriaethus" yn y trafodaethau dros dâl yn ôl recordiad cudd o gyfarfod o fewn y Blaid Lafur.
Yn y recordiad, sydd wedi dod i law'r Llanelli Herald, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters yn dweud bod Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yn "benderfynol o gael brwydr a dydyn nhw ddim yn ymroddi o ddifri' i drafod".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod Llywodraeth Cymru "wedi rhedeg allan o syniadau", ac yn ôl Plaid Cymru mae'r sylwadau'n "sarhaus".
Mae Mr Waters, Llywodraeth Cymru a'r RCN wedi gwrthod cais am sylw.
Mae nyrsys yng nghanol trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch eu tâl ac amodau gwaith.
Fe bleidleisiodd aelodau'r RCN "o fwyafrif llethol" ym mis Chwefror i wrthod cynnig diweddaraf y Gweinidog Iechyd.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod sylwadau Mr Waters wedi eu gwneud yn ystod cyfarfod preifat ddiwedd Ionawr.
Yn y recordiad, sydd wedi ei rannu gan y Llanelli Herald, mae'n bosib clywed Mr Waters yn dweud: "Mae'r RCN yn dod yn eithriadol o filwriaethus (extremely militant).
"Maen nhw'n benderfynol o gael brwydr a dydyn nhw ddim yn ymroddi o ddifri' i drafod.
"'Naethon nhw alwad roedden nhw'n gwybod oedd yn hollol anfforddiadwy - 5% yn uwch na chwyddiant - nad oedd mewn unrhyw ffordd resymol yn rhywbeth y gallwn ni wneud."
'Sarhaus eithriadol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r sylwadau yma gan y Dirprwy Weinidog yn dangos yn glir Lywodraeth Cymru sydd wedi rhedeg allan o syniadau, sydd wedi rhedeg allan o uchelgais ac yn dibynnu yn hytrach ar agwedd 'nid fi, giaffar' i lywodraethu."
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Bydd clywed yr hyn sy'n ymddangos yn weinidog Llafur yn trafod gweithwyr undeb iechyd yn y ffordd yma yn sioc i lawer.
"Mae'r rhain yn weithwyr iechyd gweithgar ac ymroddgar.
"Nid corff 'eithriadol o filwriaethus' mohono fel y mae'r gweinidog yn ei awgrymu - maen nhw'n cynrychioli gweithlu sydd wedi cael llond bol ac yn dymuno cytundeb tâl teg.
"Mae dweud eu bod yn 'benderfynol o gael brwydr' a 'ddim yn ymroddi o ddifri i drafod' yn sarhaus eithriadol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023