900 o bobl Caerdydd heb ddŵr wedi i bibell fyrstio

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr Dŵr Cymru

Mae bron i 1,000 o bobl yng ngogledd Caerdydd heb ddŵr neu â phwysedd isel wedi i brif bibell ddŵr fyrstio fore Iau.

Bu'n rhaid i naw ysgol gau ac fe gafodd sawl busnes eu heffeithio wrth i beirianwyr Dŵr Cymru wneud gwaith adfer brys yn ardal Trelái.

O'r 3,000 eiddo yn Nhrelái, Y Tyllgoed a Danescourt oedd wedi eu heffeithio yn wreiddiol, mae cyflenwad dŵr wedi ei adfer yn achos 2,000 ohonyn nhw.

Yn ôl un o drigolion ardal Y Tyllgoed roedd rhai o erddi Heol y Bwlch dan bum troedfedd o ddŵr.

'Anodd i'w gyrraedd yn ddiogel'

Brynhawn Iau fe ymddiheurodd Dŵr Cymru i'r 900 o gwsmeriaid sy'n dal heb gyflenwad neu â phwysedd dŵr isel.

"Mae'r brif bibell sydd wedi byrstio mewn lleoliad anodd i'w gyrraedd yn ddiogel," dywedodd llefarydd.

"Rydym yn parhau i gloddio er mwyn gosod pibell newydd ac yn gwneud popeth posib i adfer cyflenwadau i'r cwsmeriaid eraill yma cyn gynted â phosib."

Mewn datganiad pellach ddiwedd y prynhawn, dywedodd y cwmni bod y gwaith yn parhau "gyda'r nos a thros nos", a bod amhariad yn bosib i gyflenwadau rhai adeiladau "dros yr ychydig oriau nesaf".

Ychwanegodd mai'r gobaith yw y bydd pawb wedi cael eu dŵr yn ôl "yn diweddarach" nos Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd hi ddim yn bosib i gaffi K2 Coffee House agor yn Llandaf tra bod dim cyflenwad dŵr

Roedd caffi K2 Coffee House, ar Stryd Fawr Llandaf, ymhlith y busnesau a gafodd eu heffeithio.

Mewn datganiad i'w cwsmeriaid, fe ddywedodd y perchnogion bod "rhaid aros ar gau, yn anffodus, nes y bydd hyn wedi ei ddatrys oherwydd ni allwn ymolchi na defnyddio'r tŷ bach".

Maen nhw'n dweud eu bod wedi cael awgrym y bydd y broblem wedi ei datrys yn fuan.

Dŵr potel ar gyfer cwsmeriaid bregus

Dywedodd Cadeirlan Llandaf bod eu hadnoddau nhw ar gael i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y sefyllfa.

Mae gweithwyr Dŵr Cymru wedi bod yn darparu dŵr potel, sydd ar gael i gwsmeriaid bregus yng Nghanolfan Hamdden Y Tyllgoed.

Fe gafodd rhieni wybod tua 08:30 ddydd Iau bod sawl ysgol ar gau:

  • Ysgol Plasmawr

  • Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog

  • Ysgol y Tyllgoed

  • Ysgol Gynradd Pentrebaen

  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Francis

  • Ysgol Gynradd Danescourt

  • Ysgol Howell

  • Ysgol y Gadeirlan Llandaf, ac

  • Ysgol Gynradd Windsor Clive, a ddywedodd eu bod wedi gorfod canslo trip ysgol.

Pynciau cysylltiedig