Rhaglen interniaeth i bobl ag anableddau dysgu dros 25
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen interniaeth ar gyfer pobl dros 25 oed sydd ag anableddau dysgu wedi dechrau yn Sir y Fflint.
Dyma'r cynllun cyntaf o'r fath yn y DU a bwriad y rhaglen yw helpu mwy o bobl i ddysgu sgiliau er mwyn iddynt gael gwaith.
Mae cynllun tebyg i bobl o dan 25 oed eisoes wedi'i gynnal.
Mae Connor Jones wedi bod yn gweithio fel cynorthwy-ydd cegin yn Y Fflint ers mis Ionawr.
Mae'n un o'r bobl gyntaf i gymryd rhan yn y cynllun interniaeth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer oedolion gydag awtistiaeth neu anableddau dysgu.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn mwynhau pobi, ac mae'n gobeithio cael swydd mewn caffi ar ôl datblygu ei sgiliau.
Dywedodd: "Pan ddes i yma gyntaf roedd gen i lawer o bethau newydd i'w dysgu. Weithiau mae'n anodd pan mae'r gegin yn brysur ond rwy'n gwneud fy ngorau ac yn gweithio'n galed.
"Rydw i eisiau dysgu pethau newydd... dwi eisiau bod yn gogydd, neu'n bobydd, neu'n gynorthwy-ydd cegin yn y pen draw."
'Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb'
Mae'r cynllun interniaeth yn cael ei redeg gan DFN Project SEARCH wedi i raglen debyg ar gyfer pobl rhwng 18 a 25 oed fod yn llwyddiannus
Dywed Claire Cookson, prif weithredwr y prosiect, mai'r nod yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn cyflogaeth.
Dywedodd: "Ar draws y DU 4.8% o bobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth sydd mewn gwaith cyflogedig. Nid yw'n ddigon dda.
"Mae DFN Project SEARCH yn sicrhau bod 70% yn cael swydd. Mae 60% yn cael swyddi cyflogedig llawn amser mewn gweithleoedd integredig."
Dywedodd Neil Ayling o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: "Rydym i gyd yn gwybod ei bod yn anodd recriwtio staff mewn rhai ardaloedd ac mae pobl gydag anableddau dysgu yn grŵp ffantastig o bobl.
"Mae'r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn is nag y dymunwn - yn Sir y Fflint a gogledd Cymru rydym yn ceisio gwirio hyn drwy ddarparu'r ffyrdd gorau posib i bobl fedru cael gwaith cyflogedig go iawn."
'Teimlo'n fwy hyderus'
Un sydd wedi cael budd o'r cynllun i bobl 18-25 oed yw Owen Clark, 21, o'r Fflint.
Mae ganddo anabledd dysgu ac yn dilyn y rhaglen interniaeth ieuenctid mae ganddo swydd lawn amser mewn warws - mae e'n storio ac yn dyrannu offer meddygol.
Dywedodd: "Dwi'n credu fy mod wedi gwneud yn eithaf da ers gweithio yma ac yn amlwg dwi wedi gwneud pethau newydd nad oeddwn yn gwybod y gallwn eu gwneud.
"Dwi wedi dod yn fwy hyderus yn fy hun ers i mi ddechrau gweithio."
Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn cyflogi nifer o gyn-interniaid.
Dywedodd y prif weithredwr, Claire Budden: "Mae gennym gaffi yng nghanol Y Fflint ac roedden i'n cerdded yno am gyfarfod un diwrnod pan glywais sŵn rywun yn rhedeg tu ôl i mi.
"Edrychais o gwmpas ac un o'r interniaid oedd yn rhedeg i mewn i'r gwaith gyda gwên fawr ar ei wyneb. A dydych chi ddim yn aml yn gweld pobl yn rhedeg i'r gwaith gyda gwên felly, ydych chi?
"Doedd e ddim oherwydd eu bod nhw'n hwyr. Roedd oherwydd eu bod nhw'n gyffrous am gyrraedd y gwaith a gwneud eu swydd am y dydd."
Buddiannau i gyflogwyr
Mae'r elusen anableddau dysgu HFT wedi bod yn cydweithio gyda DFN Project SEARCH er mwyn cefnogi interniaid a dysgu sgiliau newydd i gyflogwyr.
Dywedodd Jennifer Lamb o HFT fod cyflogi pobl ag anableddau dysgu yn dod â llawer o fuddiannau.
"Rydym yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth anableddau a hyfforddiant niwroamrywiaeth oherwydd mae llawer o stigma yn dal i fod ynghylch cyflogi rhywun gydag angen ychwanegol, a'n nod ni yw cael gwared ar y rhwystrau yna gymaint a gallwn ni.
"Felly yn yr hyfforddiant yma rydyn ni'n esbonio iddyn nhw na chawn nhw weithiwr gwell. Anaml maen nhw'n sâl, maen nhw'n gwbl ymroddedig i'r rôl, naw gwaith allan o ddeg pan rydych yn eu cyflogi, byddan nhw yno am byth.
"Mae 'na gysondeb a pharhad ac maen nhw'n ei fwynhau. Maen nhw'n ei garu. Maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn rhan o gymuned."
Bellach mae gan interniaid blaenorol waith mewn swyddfeydd, ysbytai a maes rheoli cyfleusterau.
Dywedodd Claire Cookson fod llawer yn aros gyda'r cwmni lle buon nhw yn ystod eu cyfnod interniaeth.
"Nid yw'r busnesau yma am eu colli. Maent wedi cael blwyddyn o'u gwylio, yn cael budd ohonynt, yn dysgu oddi wrthynt ac yn newid o ganlyniad.
"Ac maen nhw yn dod â chymaint o werth gan mai nhw yw'r ymgeiswyr cywir am y swyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023