Un o siopau Masnach Deg cyntaf Cymru yn cau

  • Cyhoeddwyd
siop
Disgrifiad o’r llun,

Roedd siop Fair Do's Siopa Teg yn Nhreganna yn un o'r siopau masnach deg cyntaf yng Nghymru

Mae prynu nwyddau fel siocled neu goffi sydd â'r label Masnach Deg mewn archfarchnadoedd yn rhywbeth sy'n hen gyfarwydd i ni erbyn hyn.

Chwarter canrif yn ôl roedd hi'n stori gwbl wahanol, gyda dim ond llond llaw o lefydd yn gwerthu'r nwyddau sy'n cael eu hystyried yn fwy moesegol.

Yr wythnos nesaf bydd un o'r siopau Masnach Deg cyntaf i agor yng Nghymru yn gorfod cau ei drysau am y tro olaf.

Yn 1998 agorodd Jan Tucker y siop Fair Do's Siopa Teg yn Nhreganna yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y rhai sy'n siopa yn Fair Do's Siopa Teg wedi gostwng ers y pandemig, medd Jan Tucker

"Roedd y syniad yn eithaf anarferol ar y pryd," meddai Jan wrth raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru, "ond y syniad oedd ein bod ni, yn wahanol i'r cwmnïau mawr, yn talu pris teg i'n cynhyrchwyr.

"Fi'n credu bo' ni'n meddwl bryd hynny ein bod ni'n gallu newid y byd, ac mewn ffordd, rwy'n credu ein bod ni wedi llwyddo i newid y ffordd mae pobl yn meddwl am beth maen nhw'n ei brynu."

Yn 2008 fe gafodd Cymru statws Masnach Deg - y wlad gynta' erioed i gael y statws.

Y llyfrau'n dweud 'na'

Mae sawl rheswm dros orfod cau'r siop, yn ôl Jan.

"Gyda'r pandemig fe ddechreuodd pobl beidio â dod allan i'r siop a dwi ddim yn credu bod y niferoedd wedi dychwelyd fel yr oedden nhw," meddai.

"Mae'n rhent ni'n codi hefyd a heb ddigon o gwsmeriaid yn dod yma i brynu nwyddau, wel, mae'r llyfrau'n dweud 'na' ac mae hynny'n drist, yn drist iawn."

Syniad y cynllun Masnach Deg ydy bod siopwyr yn talu ychydig bach yn fwy am y nwyddau gyda'r arian yn mynd at dalu pris teg i ffermwyr, at wella safonau i weithwyr, codi safonau byw a datblygu systemau ffermio cynaliadwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r argyfwng costau byw wedi gwthio prisiau bwyd lawer yn uwch ac mae pob ceiniog yn cyfri'.

Felly oes 'na beryg y bydd rhagor o siopa fel Fair Do's Siopa Teg yn gorfod cau?

"Mae mor gyfleus rŵan i bobl droi a mynd i brynu nwyddau Masnach Deg ar-lein neu mewn archfarchnadoedd," meddai Kadun Rees o Masnach Deg Cymru, corff sy'n cefnogi, tyfu a hyrwyddo'r mudiad Masnach Deg yng Nghymru.

"Efallai bod hynny'n elfen fach o beth sy'n digwydd i'r siopau bach.

"Dan ni'n drist iawn i glywed bod Fair Do's Siopa Teg yn cau ond mae'r diolch i bobl fel Jan, drwy newid agweddau pobl, bod nwyddau Masnach Deg bellach ar gael mewn gymaint o siopa eraill."

Bydd y siop ar agor tan ddiwedd yr wythnos ac mae gan Jan Tucker gynlluniau i barhau i werthu eitemau Masnach Deg.

"Mi fydda i'n colli'r cyfeillgarwch gyda'r cwsmeriaid a gyda'r gwirfoddolwyr," meddai.