Ail fatiad Morgannwg yn creu record newydd

  • Cyhoeddwyd
Roedd Michael Neser yn un o'r rhai a ddisgleiriodd i Forgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Neser yn un o'r rhai a ddisgleiriodd i Forgannwg

Roedd buddugoliaeth Sussex yn eu gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Morgannwg yn ymddangos yn ddiogel.

Roedd Morgannwg i gyd allan am 123 yn eu batiad cyntaf a Sussex wedi sgorio 481.

Ond yna daeth ail fatiad hanesyddol Morgannwg ac ni allodd bowlwyr Sussex gael y llaw uchaf ar y tîm Cymreig drwy 207 pelawd dros ddau ddiwrnod.

Sgoriodd Kiran Carlson 192, sgôr uchaf ei yrfa, Marnus Labuschange 138, Michael Neser 123 a rhwng pawb cafwyd y cyfanswm uchaf mewn ail fatiad erioed yn y DU sef 737 i gyd allan.

Dyma ail sgôr uchaf y sir - fe sgoriwyd 795 am 5 yn erbyn Caerlŷr ym Mae Colwyn yn 2000.

Nid oedd amser wedyn i fwy nag un belawd yn ail fatiad Sussex.

Felly gêm gyfartal gafwyd - 12 pwynt i Sussex a saith i Forgannwg.

Mae Sussex felly yn ail yn y gynghrair a Morgannwg yn gydradd drydydd.

Pynciau cysylltiedig