Beirniadu Prime Energy am ddiffyg rhybuddion caffein
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon nad ydy'r ddiod boblogaidd Prime Energy yn amlygu rhybuddion caffein yn ddigon clir, er mwyn dangos ei fod yn anaddas i blant.
Dywed rhai bod edrychiad y ddiod sy'n cynnwys caffein a'r fersiwn di-gaffein yn rhy debyg.
Mae Prime Energy yn cynnwys yr un faint o gaffein â dau gwpan o goffi - yn wahanol i Prime Hydrate, sydd ddim yn cynnwys caffein o gwbl.
Mae Prime, sy'n cael ei hyrwyddo gan y sêr YouTube KSI a Logan Paul, wedi cael cais am sylw.
Yn gynharach ym mis Mai, cafodd rhieni plant Ysgol Gynradd Milton yng Nghasnewydd eu rhybuddio, drwy neges destun, i beidio drysu rhwng y diodydd ar ôl i ddisgybl fynd yn sâl ar ôl ysgol.
Cafodd Prime Hydrate ei lansio yn y DU ar ddechrau 2022. Fe achosodd giwiau hir mewn i siopau wrth i'r ddiod gyrraedd y silffoedd archfarchnadoedd.
Eleni, lansiwyd y ddiod egni Prime Energy yn y DU gan KSI a Paul, sydd gyda dros 40 miliwn o ddilynwyr YouTube rhyngddynt.
Fesul can, mae gan Prime Energy 140mg o gaffein, sydd yr un peth â dau goffi neu un espresso ddwbl.
Ar gefn y caniau, mae rhybudd yn egluro nad yw'r ddiod yn cael ei hargymell i blant, menywod sy'n feichiog, na chwaith pobl sy'n sensitif i gaffein.
Dywedodd y dietegydd, Aisling Pigott, sy'n dod o Gaerdydd: "Ni'n gwybod bod cymryd llawer o gaffein ddim yn cael ei argymell i blant a phobl ifanc.
"Mae amrywiaeth o ganllawiau o gwmpas cymryd caffein, sydd fel arfer o gwmpas 3mg o gaffein i bob cilogram o bwysau'r corff.
"Felly, i ran fwyaf o blant, mae can o Prime Energy yn uwch na beth sy'n 'ddiogel' i yfed."
Dywedodd Pigott bod ymchwil ar oedolion yn dangos os yw'r cyfaint saff o gaffein yn cael ei anwybyddu, mae'n gallu effeithio ar gwsg, cwymp mewn lefelau canolbwyntio a sut mae'r galon yn gweithio.
Dywedodd Dr Prabirendra Chatterjee, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y dylai Prime Energy gael rhybudd caffein hollol amlwg ar flaen y caniau.
Mae'r ddau gynnyrch, meddai, yn edrych yn debyg iawn.
"Rhaid crybwyll bod y ddiod yn cynnwys caffein a dangos yn glir bod hwn ddim yn addas i blant, rhai oedolion sydd gyda phroblemau meddygol, na menywod beichiog," dywedodd.
"Rhaid rhoi'r wybodaeth yma ar y blaen mewn lle hollol amlwg. Dydych chi ddim yn rhoi hwn ar y cefn gyda gweddill y wybodaeth fel calorïau, maeth a phethau fel'na.
"I unrhyw ddiog egni, mae'n rhaid sôn am gynnwys y caffein, a helpu'r prynwyr i wahaniaethu'r cynnyrch."
Ond dywedodd Dr Chatterjee bod dim gofynion cyfreithiol i Prime labelu'n fwy amlwg.
"Does dim cyfraith am hyn, dim ond argymhelliad. Ond yn foesegol, os ydych yn dilyn cyngor y rheoleiddwyr, fe ddylai bod gwybodaeth ar y blaen," meddai.
Ydy'r cyhoedd yn gallu gwahaniaethu?
Dywedodd James Mayley, 31: "Mae'r ddiod sydd mewn can yn fwy tebygol o fod y ddiod egni, felly dwi'n tybio mwy o gaffein.
"Dwi'n credu bod yr un arall yn ddiod isotonig, ond dydw i ddim yn sicr."
Doedd Anita O'Leary a Cathy Phillips, sy'n 70, methu dweud y gwahaniaeth rhwng y ddwy ddiod.
"Dim felly, heblaw bod un mewn can a'r llall mewn potel," meddai Anita.
"Mae'r ddau gyda lemwn a leim. Dydw i methu gweld gwahaniaeth arall."
Byddai Prime yn gallu gwneud newidiadau i wahaniaethu'u cynnyrch yn fwy amlwg, yn ôl Dr Chatterjee.
"Y cyngor cyffredinol yw na ddylid rhoi gwybodaeth mor bwysig ar gefn y botel, oherwydd ni fydd rhan fwyaf o'r prynwyr yn ei darllen.
"Meddyliwch am blentyn, hyd yn oed os ydy e'n dweud diod egni, mae'n bosib na fyddan nhw'n deall beth yw e yn union.
"Yn nhermau dyluniad y cynnyrch, dylai nhw wahaniaethu ac mae rhai o enwau mwyaf y farchnad yn gwneud hyn.
Dywedodd Dr Chatterjee na fyddai ailfrandio'r ddiod egni effeithio'r cwmni.
"Dylai ddim bod yn broblem. O bersbectif marchnata a brandio, byddai newidiadau i ddyluniad y ddiod egni yn ddoeth, ni fyddai'n effeithio'r prynwyr mewn unrhyw ffordd."
Mae'r BBC wedi gofyn i Prime am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022