Ystyried gwahardd diodydd egni i blant o dan 16
- Cyhoeddwyd
Mi all gwerthu diodydd egni i rai o dan 16 oed gael ei wahardd er mwyn ceisio mynd i'r afael â chyfraddau cynyddol o ordewdra yng Nghymru.
Mae mwy nag un o bob pedwar o blant Cymru dros eu pwysau neu'n ordew pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol gynradd.
O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y posibilrwydd o wahardd gwerthu diodydd egni.
Mae gweinidogion hefyd wedi lansio ymgynghoriad iechyd - mae hwnna ar leoliad siopau bwyd cyflym ger ysgolion.
Nod y ddau yw llywio deddfwriaeth newydd i geisio gwella iechyd pobl ifanc.
'Ystod eang o fesurau'
"Rydyn ni'n edrych ar bethau fel hyrwyddo prisiau isel, lleoliad bwyd mewn archfarchnadoedd, cael labelu calorïau mewn siopau tec-awe a bwytai - mae yna stod eang o fesurau yr ydym yn ymgynghori arnynt," meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, Lynne Neagle.
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl ifanc ond hefyd gan y cyhoedd," meddai.
Fe wnaeth y gweinidog gyfarfod gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, ger Caerdydd, lle mae maeth yn rhan o'r gwersi am fwyd.
"Roeddent yn wych ac yn wybodus iawn ac yn meddwl bod addysg yn wirioneddol bwysig a bod pethau eraill y gallem eu gwneud hefyd fel gwneud y labeli sy'n rhybuddio am y peryglon i bobl ifanc yn fwy amlwg.
"Mae'n dda iawn cael amrywiaeth o safbwyntiau gan bobl ifanc am yr hyn a allwn ei wneud," meddai.
Yng Nghymru, mae tua 1.6 miliwn o oedolion dros eu pwysau a 655,000 o bobl yn ordew.
Mae gordewdra yn gysylltiedig â marwolaethau cynamserol o ganser, clefyd y galon, clefyd yr afu a diabetes math 2.
Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Diet a Maeth diweddaraf, mae pobl yn bwyta gormod o siwgr, braster, halen a gormod o galorïau, ond dim digon o ffibr, ffrwythau a llysiau.
Mae'r arolwg yn dangos bod pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn bwyta hyd at deirgwaith yr uchafswm o siwgr sy'n cael ei argymell.
Mae rhai diodydd egni yn cynnwys 21 llwy de o siwgr a'r un caffein â thri chwpanaid o goffi.
Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n yfed o leiaf un diod egni'r wythnos yn fwy tebygol o adrodd am symptomau fel cur pen, problemau cysgu a phroblemau stumog yn ogystal â hwyliau isel ac anniddigrwydd.
Mae tystiolaeth hefyd yn dangos fod yfed diodydd egni yn rheolaidd yn gysylltiedig â chyrhaeddiad addysgol isel.
"Mae'r ffordd rydyn ni'n cael ein denu at fyrbrydau afiach, trwy hysbysebion, safleoedd amlwg mewn siopau a chynigion prisiau, yn gallu cael effaith wirioneddol ar yr hyn rydyn ni'n dewis ei fwyta a'n hiechyd yn gyffredinol," meddai Dr Jonathan Bone o'r elusen Nesta Cymru.
"Dylai llai o gysylltiad â marchnata a hyrwyddo byrbrydau calorïau uchel arwain at newid gwirioneddol," meddai.
"Gyda byrbrydau yn rhan sylweddol o'n diet, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i wella iechyd pobl Cymru."
Ymateb cymysg
Ond beth yw barn rhai o'r rhai a fyddai'n cael eu heffeithio? Dyma farn rhai o ddisgyblion blwyddyn 8 Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd.
Dywedodd Javan sy'n ddisbybl blwyddyn 8: "Dwi ddim yn yfed diodydd egni fel Monster neu Red Bull ond dwi yn hoffi yfed diodydd chwaraeon, ond mae llai o siwgr ynddyn nhw.
"Dwi ddim yn meddwl bod gwahardd pethau yn gweithio ond mae addysg yn bwysig felly os ydi'r llywodraeth yn gallu addysgu ni fwy amdanyn nhw i wneud y dewisiadau cywir."
Dywedodd Elan: "Mae'n neis i'w cael nhw weithiau ond fi ddim yn cael nhw trwy'r amser ond maen nhw yn flasus.
"Falle mae angen lleihau siwgr ynddyn nhw ond ddim cael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl."
Dywedodd Thomas: "Dwi'n meddwl am be dwi'n ei fwyta i ginio a swper, ond os dwi'n llwgu dwi jest yn mynd i'r cwpwrdd a bwyta beth bynnag.
"Dwi yn hoffi diodydd ffisi oherwydd bod llawer o siwgr ynddyn nhw, maen nhw yn neis iawn!"
"Dwi ddim rili'n hoffi diodydd egni ond dwi yn hoffi siocled a sweets felly byddwn i'n drist am wahardd nhw, ond dwi'n bwyta llawer ond dwi yn rhedeg llawer hefyd felly dwi ddim yn poeni gormod am be' dwi yn ei fwyta."
"Fi yn hoffi fast food ond dwi'n meddwl bod angen torri lawr yr halen a'r siwgr sydd ynddyn nhw ond dwi ddim yn meddwl bod angen banio fo," meddai Tyreese.
"Fi ddim yn meddwl bod angen banio bob dim ond mae eisiau balans rhwng pethau da a phethau drwg."
"Dw'i ddim yn bwyta llawer o junk food ond dwi mond yn bwyta nhw os dwi'n mynd mas a does dim llawer o amser," meddai Genevieve.
"Dw' i'n hoffi bwyta fe yn anaml ond mae e fel treat bach.
"Dw'i ddim yn meddwl gwaharddiad llwyr ond falle bod angen annog plant i wneud fwy o chwaraeon yn well."
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 1 Medi 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013