Marw o orddos caffein cyn gryfed â 200 paned o goffi

  • Cyhoeddwyd
Cup of coffee and coffee beansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lefelau caffein Tom Mansfield yn 392 miligram y litr o waed, yn ôl archwiliad post-mortem

Mae crwner wedi cofnodi achos o farwolaeth drwy anffawd wedi i hyfforddwr personol a gwirfoddolwr ysbyty o Fae Colwyn farw ar ôl cymryd powdwr caffein oedd cyn gryfed â hyd at 200 o gwpanau o goffi.

Clywodd cwest bod Tom Mansfield, oedd yn 29 oed ac â dau o blant, wedi prynu'r powdwr ar-lein a'i bwyso gyda chlorian gegin ddigidol gyffredin.

Ond roedd wedi camgyfri'r ddos wrth ei gymysgu â dŵr ac fe aeth yn sâl yn syth ar ôl ei yfed, gan gydio yn ei fron yn dweud bod ei galon yn curo'n gyflym.

Funudau'n ddiweddarach, ar ôl mynd i orwedd, roedd yn glafoerio ac fe alwodd ei wraig gymdogion, perthnasau a'r gwasanaeth ambiwlans.

Fe geisiodd parafeddygon ei achub am dri chwarter awr ond fe gadarnhawyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ei fod wedi marw.

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod y glorian a ddefnyddiodd i fesur y powdwr ag ystod rhwng 2-5,000 gram, ond roedd yn ceisio pwyso dos argymelledig o 60-300 miligram. Gorddos anferthol oedd canlyniad y camgymeriad.

Dim o'i le gyda'r pecynnu

Roedd Mr Mansfield wedi prynu bag 100 gram o bowdwr caffein, gan gwmni Blackburn Distributions.

Mewn datganiad i'r cwest, fe eglurodd cyfarwyddwr y cwmni, Ben Blackburn, mai'r dos sy'n cael ei argymell yw 60-300mg o bowdwr hyd at ddwywaith y dydd a bod modd prynu cloriannau ar gyfer pwyso meintiau cyn lleied.

Dywedodd nad oedd y cwmni'n cynnwys sgwpiau o fewn pecynnau adeg marwolaeth Mr Mansfield, sef 5 Ionawr 2021, gan nad ydyn nhw bob tro'n gwbl gywir, ond mae hynny wedi newid erbyn hyn.

Roedd swyddogion safonau masnach wedi asesu'r pecynnu a phenderfynu nad oedd dim o'i le, ond mae'r cwmni wedi gwella'r cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr a rhoi gwybodaeth fwy amlwg am sgil-effeithiau posib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sgwpiau yn aml yn cael eu darparu ar gyfer pwyso powdwr caffein a phrotein

Dangosodd archwiliad post-mortem bod lefelau caffein Mr Mansfield yn 392 miligram y litr o waed. 2-4 miligram y litr yw'r lefel debygol ar ôl yfed cwpanaid o goffi hidledig.

Gan gofnodi achos o farwolaeth drwy anffawd, dywedodd Crwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, bod hi'n ymddangos bod Mr Mansfield yn anelu at bwyso dos yng nghanol yr ystod argymelledig.

Ond, meddai, "roedd ei fathemateg yn anghywir" gyda "chanlyniadau anfwriadol" ac angheuol.

Ychwanegodd bod y powdwr caffein "yn gynnyrch cyfreithlon, diogel, nid yn sylwedd wedi'i wahardd" ond ei fod "yn llawer yn dawelach fy meddwl" bod camau wedi'u cymryd o ran darparu sgwpiau mesur.

Dywedodd Mr Gittins wrth weddw Mr Mansfield, Suzannah: "Rwy'n amau pe byddai wedi bod ar gael a'i fod wedi dilyn hynny yn hytrach na cheisio gwneud y fathemateg ei hun, fe fyddai siŵr o fod yn dal gyda chi heddiw."

Pynciau cysylltiedig