Caerdydd: Pobl wedi marw mewn gwrthdrawiad cyn anhrefn Trelái
- Cyhoeddwyd
Bu farw pobl mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd cyn i'r heddlu ddelio gydag anhrefn nos Lun, yn ôl Comisiynydd Heddlu De Cymru.
Roedd Alun Michael yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar ôl golygfeydd treisgar wnaeth bara oriau ger safle'r gwrthdrawiad yn Nhrelái.
Cafodd heddlu anhrefn a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yno yn ardal Ffordd Snowden.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.
Cafodd rhai eu gweld yn torri palmentydd a'u taflu hefyd.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio rhai ac fe ychwanegodd Mr Michael fod tua dwsin o swyddogion wedi eu hanafu.
Dydy hi ddim yn glir eto beth wnaeth arwain at yr anhrefn.
Yn wreiddiol, fe gyrhaeddodd Heddlu De Cymru y safle tua 18:00 i adroddiadau o "wrthdrawiad difrifol" ar Ffordd Snowden, yn ôl y llu.
Roedd dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol fod yr heddlu'n rhan o'r digwyddiad gwreiddiol, ond dywedodd y llu fod y gwrthdrawiad "eisoes wedi digwydd pan gyrhaeddodd swyddogion".
'Heddlu wedi eu hanafu'
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Comisiynydd Heddlu De Cymru ei fod "yn deall" fod "dau o bobl ifanc ar off road bike neu sgwter mewn damwain" a'u bod wedi marw.
"Fe ddaru'r heddlu wedyn ddod i ddelio gyda'r ddamwain a 'ddaru'r pethe' yma ddigwydd," ychwanegodd Alun Michael.
"Mae yna ddim rheswm 'dan ni'n gwybod i hyn ddigwydd, ac mae'n dangos beth fedar ddigwydd pan mae pethe' yn datblygu mor gyflym a gwybodaeth neu wybodaeth anghywir yn mynd o gwmpas ar social media.
"Fel dwi'n deall roedd rhai pobl leol yn meddwl bod 'na rhyw contact gyda yr heddlu cyn y ddamwain - mae hynna ddim yn wir. 'Dan ni yn sicr o hynna.
"Ond mae dwsin o'r heddlu wedi cael eu brifo ond neb wedi colli bywyd neu rhywbeth sydd yn life changing."
Ychwanegodd y bydd yr heddlu yn "edrych yn fanwl" ar yr hyn ddigwyddodd.
Yn gynharach fe ddywedodd yr heddlu fod "nifer fawr o swyddogion" ar leoliad, ond eu bod hefyd yn delio gydag "anhrefn".
"Rydym yn annog unrhyw un sy'n gysylltiedig i adael y lleoliad ar unwaith ac yn gofyn i drigolion lleol gadw draw tra bod y mater yn dod i ben yn ddiogel," meddai'r datganiad.
Fe wnaeth y llu ryddhau diweddariad ar y cyfryngau cymdeithasol tua 01:00 yn oriau mân bore Mawrth yn dweud eu bod yn dal i "fonitro ac ymateb" i'r sefyllfa.
Ychwanegon fod "presenoldeb mawr gan yr heddlu yn dal yn yr ardal" ar y pryd.
Cafodd plismyn ar gefn ceffylau eu gweld tu allan i orsaf heddlu Trelái hefyd.
Yn ôl un o ohebwyr y BBC roedd heddlu gwrth-derfysgaeth â chŵn i'w gweld yn yr ardal ynghyd â nifer o gerbydau y gwasanaethau brys.
Deallir bod dau o geir Heddlu De Cymru wedi'u difrodi yn ystod yr anhrefn o gwmpas Ffordd Wilson a strydoedd cyfagos ac mae adroddiadau yn awgrymu bod darnau o balmant wedi cael eu taflu at yr heddlu.
Dywedodd cwmni Bws Caerdydd bod eu teithiau wedi'u dargyfeirio.
Roedd Jane Palmer yn dweud ei bod hi a'i theulu wedi gwylio o ffenestr wrth i'w char gael ei roi ar dân.
"Rwy'n anabl nawr felly yn gaeth heb gar," dywedodd.
"Pam bod nhw yn gwneud hyn? Mae'n wirion."
Fe wnaeth yr heddlu annog unrhyw un oedd yn gysylltiedig gyda'r anhrefn i adael y lle ar unwaith, gan ofyn i bobl leol aros draw tra bod y safle yn cael ei ddiogelu.
Roedd yna gais hefyd i bobl leol aros yn eu cartrefi.