Barn pedwar: Ydy bywyd yn normal wedi Covid?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CovidFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd dydd Mawrth yn flwyddyn union ers llacio'r cyfyngiad Covid olaf yng Nghymru ac er nad ydy Coronafeirws wedi diflannu, mae'r adferiad yn parhau.

Dros y deuddeg mis diwethaf mae llawer o drafod wedi bod am yr ymdrechion i dorri rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, ond beth am weddill cymdeithas?

Yma mae pedwar o bobl â phrofiadau gwahanol o'r pandemig yn rhannu eu safbwynt nhw ynghylch a ydy bywyd yn normal eto.

Darlithydd seicoleg

"Pan rydyn ni'n cyfweld â phobl nawr, ni'n gweld bod llawer o bobl yn teimlo fel bod y pandemig wedi bod yn fywyd arall neu'n freuddwyd," medd Dr Simon Williams.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Simon Williams yn synnu pa mor gyflym mae bywyd wedi dychwelyd i normal

Mae'r academydd o Brifysgol Abertawe yn dweud ei fod "wedi synnu pa mor gyflym a thrylwyr" y gwnaeth pobl ddilyn y rheolau'n ystod y pandemig "er gwaetha'r heriau iddyn nhw eu hunain ac er gwaetha'r sylw yn y cyfryngau i wleidyddion oedd yn torri'r rheolau".

"Roedd y mwyafrif helaeth o bobl yn fodlon gwneud pethau oedd yn gwbl annaturiol iddyn nhw."

Ond dywed Dr Williams ei fod hefyd "wedi synnu" pa mor gyflym mae bywyd i'r rhan fwyaf o bobl "wedi dychwelyd i normalrwydd".

"Pan rydyn ni'n edrych nôl dros y tair blynedd diwethaf a'r flwyddyn ddiwethaf, mae'n syndod i mi pa mor gryf ydy pobl ond hefyd mae'n anodd iawn diosg hen arferion."

Dioddefwr Covid hir

Dywed Sarah Sutton, 44, y byddai'n "rhoi unrhyw beth i ddychwelyd i normalrwydd".

Disgrifiad o’r llun,

Sarah Sutton: 'Does dim normalrwydd i mi mwyach'

Mae'r fam i bedwar o Abertawe yn un o ryw ddwy filiwn o bobl ar draws y Deyrnas Unedig sy'n byw â Covid hir ar ôl iddi ddal y firws tra'n gweithio fel bydwraig ar ddechrau'r pandemig.

Mae'r cyflwr sy'n effeithio ar sawl rhan o'i chorff ac yn achosi iddi anghofio pethau yn golygu ei bod, yn aml, yn gorfod aros yn y gwely a dydy hi ddim yn gallu gweithio.

Mae ei dwy ferch wedi gorfod symud yn ôl adref hefyd i ofalu amdani.

"Does dim normalrwydd i mi mwyach, neu dydy'r normalrwydd sydd yna yn ddim byd fel yr oedd yn arfer bod.

"Ydy hi'n normal i blentyn 11 oed ofyn, 'Wyt ti'n cuddio rhywbeth mam, ydyn nhw wedi dweud rhywbeth wrthot ti dy fod yn marw'?

"Fyddwn i ddim yn dweud bod hynny'n normal."

Dywed Ms Sutton ei bod hi'n un o'r "miliynau coll" y mae pobl wedi "anghofio" amdanynt ers y pandemig.

"Mae'r awgrym bod bywyd yn normal i bawb eto nawr yn anwiredd."

Perchennog tŷ bwyta

"Mae'n fwy o her nawr nag yr oedd yn ystod Covid," medd Simon Wright sy'n berchen ar fwyty Wright's Emporium yn Llanarthne.

Disgrifiad o’r llun,

Simon Wright: 'Yr heriau'n fwy nag erioed'

Mae Mr Wright hefyd yn un o sylfaenwyr corff fu'n siarad ar ran y diwydiant yn ystod y pandemig.

Roedd lletygarwch yn un o'r sectorau gafodd ei daro waethaf gan gyfyngiadau Covid ond ers y pandemig mae perchnogion busnes nawr yn wynebu argyfwng economaidd.

"O leiaf yn ystod y pandemig y llywodraeth oedd yn dweud wrthon ni i gau ac roedd yna ddealltwriaeth bod angen cefnogaeth arnom ni ac roedden ni'n gallu siarad am hynny," medd Mr Wright.

"Yn y sefyllfa bresennol dwi'n credu bod pobl yn teimlo'n llawer mwy anobeithiol yn wyneb biliau ynni sy'n codi'n sylweddol a chostau a phrinder gweithwyr.

"Yn amlwg mae gen i hoffter tuag at yr holl bobl yna sy'n gweithio yn ein sector ac mae eu gweld nhw'n trafferthu fel hyn yn dorcalonnus."

Undeb athrawon

"Rydych chi'n gallu anghofio weithiau yn union pa mor ofnadwy oedd y cyfnod yna i bobl ifanc," medd Eithne Hughes o undeb athrawon ASCL Cymru wrth iddi edrych yn ôl ar y pandemig.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Eithne Hughes: 'Cyfraddau absenoldeb yn bryder i bobl sy'n gweithio'n gyfundrefn addysg'

Fe wnaeth Covid darfu'n sylweddol ar ysgolion a disgyblion, gyda'r rhan fwyaf o blant yn gorfod dysgu o adref dros y we.

Nawr, wrth i ddiwedd y flwyddyn ysgol ddi-dor gyntaf ers Covid agosáu mae cyfraddau absenoldeb yn bryder i bobl sy'n gweithio'n gyfundrefn addysg.

Mae'r gyfradd presenoldeb wedi gostwng o 94% yn 2019 i 89.5% hyd yma eleni.

"Mae'r ffigyrau yna'n dorcalonnus i'r proffesiwn," medd Ms Hughes.

"Mae arweinwyr ysgol ac athrawon yn gwybod pa mor bwysig yw hi i gael plant yn yr ysgol, a daeth hynny'n amlwg yn ystod y pandemig pan roedd ysgolion yn dawel heb blant.

"Mae'r berthynas rhwng cyrhaeddiad a phresenoldeb yn bwynt amlwg i'w wneud - os nad ydy plant yn yr ysgol yna dydyn nhw ddim yn gallu llwyddo.

"Mae hynny dwi'n meddwl yn waddol sylweddol o gyfnod Covid."

Y stori yn llawn ar Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ddydd Sul

Pynciau cysylltiedig