Estyn: Sgiliau darllen wedi dioddef oherwydd y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DarllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwy o ddisgyblion ym mlwyddyn 6 yn gwneud cynnydd da na'r rhai ym mlynyddoedd cyntaf uwchradd

Mae sgiliau darllen wedi dioddef o ganlyniad i'r pandemig ac mae amrywiaeth mawr mewn safonau rhwng disgyblion, yn ôl y corff sy'n arolygu ysgolion.

Roedd y dirywiad yn waeth i ddisgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig.

Disgrifiad,

Heledd Thomas: 'Sgiliau darllen wedi dioddef oherwydd y pandemig'

Dywedodd arolygwyr Estyn bod strategaethau dysgu oedd "fel arfer yn cael eu defnyddio gyda disgyblion iau yn gorfod cael eu defnyddio gyda disgyblion hŷn".

Ond yn ôl yr adroddiad ar safonau darllen Saesneg plant 10 i 14 oed mae sgiliau nifer o ddisgyblion yn "dechrau gwella".

Mae angen mwy o hyfforddiant i staff am y ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu disgyblion gyda'u darllen, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Owen Evans yw pennaeth y corff arolygu ysgolion, Estyn

Yn ôl Owen Evans, y prif arolygydd, fe gafodd y pandemig "effaith negyddol, yn enwedig ar y rhai dan anfantais oherwydd tlodi," ond mae safonau'n gwella.

Mae'n bosib bod y cyfnodau clo "wedi ehangu'r bwlch" darllen rhwng disgyblion oedd ag adnoddau a chefnogaeth gartref a'r rhai nad oedd â'r cymorth yna, meddai adroddiad Estyn.

Fe wnaeth arolygwyr ymweld â nifer o ysgolion cyfrwng Saesneg i arsylwi sgiliau darllen disgyblion blynyddoedd 6 i 9, yn ogystal â defnyddio tystiolaeth o arolygiadau eraill.

Roedd mwy o ddisgyblion ym mlwyddyn 6 - blwyddyn olaf y cynradd - yn gwneud cynnydd da na'r rhai ym mlynyddoedd cyntaf uwchradd, ble doedd disgyblion ddim "yn datblygu sgiliau darllen yn ddigon da".

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd llyfrgell ysgol groesawgar gydag adnoddau da.

Dywedodd bod amrywiadau mawr mewn cyfleusterau ar draws ysgolion, ac mewn ambell ysgol "prin mae'r llyfrgell yn cael ei defnyddio neu mae wedi cael ei dadgomisiynu".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd llyfrgell ysgol groesawgar gydag adnoddau da

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yna gamau i wella safonau darllen, a bod argymhellion Estyn yn "adlewyrchu ein disgwyliadau ni i bob disgybl ddatblygu safonau uchel, beth bynnag fo'u cefndir".

Mae pob disgybl ysgol yn cael llyfr am ddim ac mae rhaglen fentora darllen yn cael ei threialu ble mae myfyrwyr prifysgol yn gweithio gydag ysgolion cynradd "i annog mwynhad a chymhelliant i ddarllen", meddai llefarydd.

Fe wnaeth Cymru wella ei pherfformiad ym mhrofion rhyngwladol Pisa yn 2019, ond roedd y canlyniadau darllen yn parhau'n sylweddol is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.