Dau yn cael triniaeth ysbyty wedi tân ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
ty Capel SeionFfynhonnell y llun, Charlie Morgan

Mae dau o bobl yn cael triniaeth ysbyty wedi tân mewn tŷ ar gyrion Aberystwyth nos Sadwrn.

Cafodd parafeddygon eu hanfon i'r tŷ ym mhentref Capel Seion, oddeutu pedair milltir (6km) i'r dwyrain o Aberystwyth am oddeutu 21:00.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael cais am sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fe anfonon ni gerbyd ymateb brys a thri ambiwlans.

"Cafodd dau glaf eu cludo i Ysbyty Cyffredinol Bronglais er mwyn iddyn nhw gael triniaeth bellach."

Pynciau cysylltiedig