Angen cwest wedi lladdiadau iechyd meddwl, medd cyfreithiwr

  • Cyhoeddwyd
Amanda
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amanda ei bod yn "frawychus" ei bod wedi cymryd cymaint o amser i'r achos gael ei adolygu

Cael cwest crwner fyddai'n gwneud y "gwahaniaeth mwyaf" i atal lladdiadau yn ymwneud â chleifion iechyd meddwl, yn ôl uwch fargyfreithiwr.

Ers 2016 bu saith achos o dynladdiad yng Nghymru gan gleifion iechyd meddwl ddifrifol wael, ond nid oes yr un ohonynt wedi cael cwest crwner llawn.

Dywedodd yr Arglwydd Alex Carlile fod system newydd, sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru i adolygu achosion o'r fath yn annibynnol, yn annhebygol o fod yn ddigon.

Mae angen mwy na hynny, meddai, i ddysgu gwersi a dwyn gwasanaethau i gyfrif.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder na allai wneud sylw ar benderfyniadau crwneriaid unigol, tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai eu hadolygiadau newydd yn sicrhau y bydd gwersi a ddysgir o laddiadau iechyd meddwl yn cael eu "mabwysiadu ledled Cymru".

'Lleisiau yn ei ben'

Daw'r sylwadau wrth i BBC Wales Investigates ddarganfod bod un claf yng Ngheredigion wedi'i ryddhau o uned seiciatryddol ddeng niwrnod cyn trywanu dieithryn yn angheuol, er i feddygon dynnu sylw at ei "gyflwr meddwl oedd yn gwaethygu" a'r risg roedd e'n ei "beri â chyllyll".

Ymosododd David Fleet, oedd yn 20 ar y pryd, ar Lewis Stone, 71, tra roedd e'n mynd â'i gi am dro yn Y Borth ger Aberystwyth oherwydd "y lleisiau yn ei ben".

Disgrifiad o’r llun,

Fe drywanodd David Fleet ddyn i farwolaeth ddeng niwrnod yn unig ar ôl gadael uned seiciatryddol

Canfu adolygiad mewnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ofal David Fleet fod "cyfleoedd wedi'u colli," ond ni chafodd gwersi o'r achos eu rhannu'n uniongyrchol â byrddau iechyd eraill na'u gwneud yn gyhoeddus.

Ni chafwyd unrhyw wrandawiad cwest crwner nac adolygiad annibynnol wedi'r farwolaeth yn 2019.

"Yng Nghymru, yn fy marn i, y gwahaniaeth unigol mwyaf [i atal lladdiadau iechyd meddwl] fyddai mandadu y dylid cael cwest iawn ym mhob achos o'r math hwn," meddai'r Arglwydd Carlile, cyn-gadeirydd y pwyllgorau seneddol ar ddeddfwriaeth ar faterion iechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Carlile ei bod yn hanfodol edrych "ar y gwersi o achosion y gorffennol"

Beth yw cwest crwner?

  • Mae cwest crwner yn fath o ymchwiliad i unrhyw farwolaeth yr ymddengys bod iddi achosion anhysbys, treisgar neu annaturiol;

  • Mae crwneriaid yn fath o farnwr arbenigol, mae'r rhan fwyaf yn gyfreithwyr eu hunain ac yn ateb i'r Uchel Lys yn unig;

  • Mae eu cwestau'n cael eu clywed yn gyhoeddus - a gallant gynnwys tystion a thystiolaeth;

  • Fel arfer maen nhw'n ateb pedwar cwestiwn. Pwy sydd wedi marw, sut ddigwyddodd, ble a phryd? Fodd bynnag, gall rhai mathau arbennig o gwest hefyd edrych a allai unrhyw sefydliadau fod wedi bod ar fai yn y cyfnod cyn y farwolaeth;

  • Nid oes gan grwneriaid y pŵer i feio unigolion - ond gallant roi 'rheithfarnau naratif' lle maen nhw'n disgrifio amgylchiadau'r farwolaeth - ac ysgrifennu adroddiadau yn awgrymu camau gweithredu i helpu i atal marwolaethau tebyg.

"Mae'n gyhoeddus, felly mae'n atebol, ac mae'r dystiolaeth yn cael ei phrofi'n fforensig, ac rwy'n golygu y gall y bargyfreithwyr neu'r cyfreithwyr groesholi tystion, gan gynnwys tystion arbenigol, i ganfod bod popeth yn cael ei ddatgelu," medd yr Arglwydd Carlile.

Ychwanegodd yr Arglwydd Carlile ei bod yn hanfodol edrych "ar y gwersi o achosion y gorffennol".

Dywedodd nifer o swyddfeydd crwneriaid wrth BBC Cymru pe bai achos eisoes wedi bod drwy Lys y Goron, fel y byddai'r rhai yn ymwneud â lladdiadau iechyd meddwl wedi'i wneud, yna eu bod yn annhebygol o gael gwrandawiad cwest hefyd oherwydd ei fod mewn perygl o ddyblygu'r hyn a glywyd eisoes.

Fodd bynnag, mae rhai o'r teuluoedd dan sylw yn bryderus, gan eu bod yn credu y dylid gwneud mwy i glywed am unrhyw fethiannau posibl a chyfleoedd a gollwyd yn y cyfnod cyn lladd.

Cafodd Amanda ei thrywanu sawl gwaith gan ei mab Garvey Gayle, bedwar mis ar ôl iddo gael ei ryddhau o uned seiciatryddol i hostel i'r digartref yng Nghaerdydd yn 2020. Yn yr un ymosodiad, lladdodd Garvey ei dad, Michael.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Garvey ei ryddhau o uned seiciatryddol fisoedd cyn iddo geisio lladd ei rieni

Mae Amanda yn credu y gallai'r ymosodiad fod wedi cael ei atal pe bai Garvey wedi cael mwy o gefnogaeth.

Dros ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, mae hi'n dal i aros i ddarganfod a fydd cwest crwner i farwolaeth Michael. Mae hi'n poeni bod gwersi, a allai helpu i atal digwyddiadau tebyg, yn cymryd gormod o amser.

"Rydw i eisiau rhai atebion ynglŷn â sut, efallai, y gallai hyn fod wedi cael ei atal pe bawn ni wedi cael mwy o help. Mae yna lawer o gwestiynau heb eu hateb ar hyn o bryd."

Mae proses newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiadau annibynnol i achosion o'r fath, a elwir yn Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl, dolen allanol, i fod i gymryd llai na 12 mis o'r amser y cânt eu comisiynu.

Bydd achos Garvey Gayle yn un o'r rhai cyntaf i gael ei ystyried o dan y system newydd, ond dywedodd Amanda ei bod wedi cael gwybod i beidio â disgwyl y canlyniadau tan ar ôl trydydd pen-blwydd marwolaeth Michael.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Amanda nad yw'r amser aros yn deg ar y teuluoedd

Dywedodd bod yr oedi yn "frawychus" a "dyw e ddim yn deg ar y teulu o gwbl," meddai.

Dywedodd Heddlu'r De, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Llywodraeth Cymru, nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw ar yr achos oherwydd yr adolygiad sydd ar y gweill.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai eu system adolygu newydd yn cydnabod yr angen am "fwy o gydlynu a chyfathrebu" rhwng sefydliadau wrth ymchwilio i ddynladdiadau iechyd meddwl.

Pynciau cysylltiedig