Ymosodiad Y Borth: Cadw dyn dan ddeddf iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Lewis StoneFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lewis Stone yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei drywanu

Mae dyn 21 oed wedi ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am gyfnod amhenodol wedi iddo drywanu pensiynwr i farwolaeth yng Ngheredigion.

Bu farw Lewis Stone, oedd yn 71 oed, mewn ysbyty dri mis wedi'r ymosodiad ger sŵ Wild Animal Kingdom yn Y Borth.

Plediodd David Kenneth Fleet, sydd â sgitsoffrenia paranoiaidd, yn euog i ddynladdiad ac o fod ag arf bygythiol yn ei feddiant.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y diffynnydd wedi dweud wrth seiciatryddion bod "lleisiau" yn ei ben "yn mynd i'w ladd a meddiannu ei ymennydd" pe na byddai wedi trywanu Mr Stone.

Dan amodau gorchymyn y llys bydd yn rhaid i fwrdd y Weinyddiaeth Gyfiawnder oruchwylio unrhyw benderfyniad yn y dyfodol i'w ryddhau.

Gweiddi am help

Roedd Mr Stone, cigydd oedd newydd ymddeol, yn mynd â'i gi am dro ar hyd Afon Leri tra ar wyliau yn yr ardal pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar 28 Chwefror.

Roedd dau swyddog heddlu yn siarad â pherchnogion carafán gyfagos, Terrence Williams a Cerys Williams, pan glywson nhw rywun yn gweiddi am help o gyfeiriad yr afon, a rhuthro yno i weld beth oedd yn digwydd.

Fe welson nhw "ddau berson ar y llawr ar lan gyferbyn" a'r diffynnydd yn sefyll ag un droed bob ochr i Mr Stone oedd "yn gorwedd mewn pelen" a'i ddwylo wrth ei wyneb yn ceisio amddiffyn ei hun.

Welson nhw'r diffynnydd yn symud ei fraich dde fe petai'n trywanu cefn y dyn ar y llawr.

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu ger safle'r ymosodiad ar ddechrau'r ymchwiliad i'r achos

Fe waeddodd Mr Williams "Oi!" ac fe redodd y diffynnydd i ffwrdd.

Aeth Mr Williams ac un o'r plismyn ar ei ôl ar feic cwad at y bont agosaf lle gafodd y diffynnydd ei arestio. Doedd dim arf arno a chafodd y gyllell a laddodd Mr Stone mo'i chanfod.

Croesodd Mrs Williams a'r ail swyddog heddlu yr afon i helpu Mr Stone a ddywedodd wrthyn nhw ei fod wedi cael ei drywanu. Roedd wedi cael un anaf i'w stumog a dau i'w gefn.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke ond bu farw yno ar 23 Mai.

Ymosodiad 'arswydus'

Dywedodd Michael Jones QC wrth y llys bod tri seiciatrydd ar ran yr amddiffyn a'r erlyniad oll wedi dod i'r casgliad bod y diffynnydd â sgitsoffrenia paranoiaidd a'i wedi ymosod ar hap.

Roedd eisoes wedi dod i sylw gwasanaethau iechyd meddwl ar ôl i'w fam fynegi pryder ei fod yn cael pyliau o iselder ac yn meddwl am ladd ei hun, o bosib dan ddylanwad defnyddio canabis, ond clywodd y llys nad oedd dan ddylanwad unrhyw gyffur adeg yr ymosodiad.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC bod yr ymosodiad ar Mr Stone yn "arswydus" ac wedi achosi "galar amhosib ei ddychmygu i'w deulu".

"Bydde maddeuant i'w deulu a'r cyhoedd yn gyffredinol am ryfeddu pam nad wyf yn gosod Mr Fleet dan glo am oes.

"Roedd Mr Fleet ar y pryd... yn dioddef salwch meddwl difrifol iawn," meddai, gan ychwanegu bod Mr Stone "yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir".

"Bydd Mr Fleet yn cael ei gadw mewn uned iechyd meddwl ddiogel iawn lle bydd yn cael ei drin a'i fonitro."

Dywedodd wrth deulu Mr Stone: "Rwy'n gobeithio y gallwch chi ddeall pam bod rhaid gweithredu yn y modd yma."

Dywedodd ei lysferch, Victoria Lindsey, wrth y llys ei fod "yn ŵr rhyfeddol i fy mam ac yn daid ffantastig... y dyn ro'n i am iddo fy hebrwng i'r allor un diwrnod".