Symud pobl yn Aberystwyth wedi tân mewn parc natur

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mwg yn codi o dân ym Mharc Natur Penglais

Cafodd pobl yn Aberystwyth eu symud o'u fflatiau yn dilyn tân mewn parc natur gerllaw brynhawn Gwener.

Roedd mwg a fflamau i'w gweld yn codi o ardal Parc Natur Penglais ar gyrion y dref am tua 16:50.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw, gydag 20 o swyddogion a phedwar cerbyd yn mynychu'r digwyddiad.

Dywedodd heddlu Dyfed Powys y bu Heol yr Ysbyty, sydd yn agos i'r parc, ar gau.

Cafodd canolfan orffwys ei sefydlu gan Gyngor Ceredigion ar gyfer y rheiny fu'n rhaid gadael eu cartrefi, cyn i'r trigolion gael dychwelyd am 21:15 nos Wener.

"All pawb sy'n byw yn lleol gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau os gwelwch yn dda, tra bod y gwasanaethau brys yn delio gyda'r digwyddiad a'i wneud yn saff," meddai'r llu.

"Diolch am eich cydweithrediad."

Pynciau cysylltiedig