Gwrthod talu dirwy uniaith Saesneg am barcio ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni parcio preifat o Loegr wedi colli achos sifil yn erbyn dynes o Wynedd oedd wedi gwrthod talu dirwy uniaith Saesneg.
Roedd cwmni Simple Intelligent Parking Ltd wedi dwyn achos yn erbyn Elysteg Llwyd Thomas o Ddyffryn Nantlle am iddi beidio talu £160 o ddirwy parcio.
Ond dywedodd barnwr bod y cwmni parcio ar fai, a hynny am nad oedden nhw wedi darparu arwyddion dwyieithog.
Dywedodd y cwmni wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n siomedig gyda'r dyfarniad, a'u bod nhw'n bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Cynyddu'r ddirwy
Fis Awst, 2021, mewn maes parcio ger Traeth Lligwy, Ynys Môn fe barciodd Ms Thomas ei char dros yr amser a dalwyd amdano, ac fe gafodd ddirwy drwy'r post o £60.
Mae'r maes parcio ger Moelfre yn eiddo i gwmni SIP Ltd ym Manceinion.
Yno, mae yna gamerâu sy'n adnabod rhif ceir wrth iddyn nhw yrru mewn, ac sy'n cofnodi'r wybodaeth i roi dirwy os nad oes taliad yn cael ei wneud mewn pryd.
Fe anfonodd Ms Thomas ateb yn syth at y cwmni i ddweud y byddai'n barod i dalu unwaith y byddai'r cwmni yn anfon pob gohebiaeth yn ddwyieithog, gan gynnwys copi o'r ddirwy.
Cafodd ei chais ei anwybyddu, a chafodd wybod bod y gosb wedi cynyddu i £100 ac yna i £160.
Ddydd Mercher fe wnaeth Ms Thomas ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon mewn achos sifil. Roedd ei thad Eifion Lloyd Jones yn ei chynrychioli.
Doedd Ms Thomas ddim am wneud sylw pellach ar y mater yn dilyn yr achos.
Ond yn ôl ei thad Eifion Lloyd Jones, o Brion ger Dinbych, fe gymerodd hi fisoedd i gwmni SIP Ltd gydnabod mai cais am lythyr dwyieithog oedd y rheswm dros y gwrthod talu.
Cafodd y teulu hefyd wybod gan y cwmni nad oedd gorfodaeth gyfreithiol arnyn nhw i wneud dim yn y Gymraeg.
Rhybudd barnwrol
Fe benderfynodd y barnwr Merfyn Jones-Evans o blaid y diffynnydd gan wrthod cais y cwmni parcio, a chyhoeddi rhybudd barnwrol y dylai pob arwydd mewn meysydd parcio yng Nghymru fod yn ddwyieithog.
Gan gyfeirio at y Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, nododd dyfarniad y barnwr nad yw hysbysiadau Cymraeg yn unig, neu Saesneg yn unig, yng Nghymru yn "hysbysiadau digonol".
Felly i gydymffurfio ag atodlen 4 y Ddeddf rhaid, medd y dyfarniad, i "hysbysiadau fod yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg".
Mae dogfennau swyddogol y llys yn cofnodi fod y barnwr rhanbarth "yn argyhoeddedig, wedi cloriannu'r hyn sy'n debygol, bod y Diffynnydd wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad cyntaf mewn pryd ac nad oedd yr Hawlydd wedi ymateb i'r apêl hwnnw".
Roedd hynny felly "wedi amddifadu'r Diffynnydd o'i hawl i apêl pellach i lAS, a chan hynny bu i'r Hawlydd weithredu yn groes i delerau ac amodau уr Hawlydd ei hun".
Wedi'r achos, fe ddywedodd Eifion Lloyd Jones: "Rwy'n credu fod hwn yn gosod cynsail, nid yn unig am feysydd parcio preifat, ond materion eraill yng Nghymru."
Yn ôl Mr Jones roedd y barnwr Merfyn Jones-Evans wedi datgan fod ei ddyfarniad yn dibynnu ar y cwestiwn: 'Ydi rhybuddion uniaith Saesneg yn ddigonol ac felly'n dderbyniol mewn unrhyw faes parcio cyhoeddus yng Nghymru?'
"A'i farn o oedd nad yw'r Saesneg yn unig yn ddigonol," meddai.
'Dim cynsail'
Ond yn ôl Dylan Rhys Jones, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, "does 'na ddim cynsail o gwbl" wedi cael ei osod gyda'r dyfarniad.
"Mae 'na ychydig bach o ryw gymnasteg gyfreithiol wedi cael ei wneud gan y barnwr yma," meddai.
"Mi all 'na achos arall gael ei glywed wythnos nesa', a phenderfyniad i'r gwrthwyneb yn cael ei wneud.
"Be' fyswn i'n deud ydy, os ydy pobl yn parhau i roi sialens i ddirwyon sydd yn cael eu rhoi yn uniaith Saesneg fel hyn, a bod cwmnïau yn sylweddoli bod hi'n rhatach iddyn nhw mewn ffordd i roi dogfennaeth yn Gymraeg yn hytrach na mynd i'r llys pob achos, fel yn yr achos yma, yna mae'n mynd i fod yn rhatach iddyn nhw roi dogfennau yn Gymraeg.
"Ac mae'n gwneud mwy o synnwyr felly iddyn nhw wneud hynny yn economaidd.
"Felly mae yna resymeg tu ôl i godi sialens, ond does 'na ddim cynsail cyfreithiol i'r achos yma."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd ystyrlon ac ymarferol i hyrwyddo'r Gymraeg, a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd".
"Rydyn ni'n argymell y dylai Cod Ymarfer Parcio drafft Llywodraeth y DU gynnwys canllawiau ynghylch defnyddio'r Gymraeg mewn meysydd parcio preifat," meddai.
"Byddai hyn yn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n ehangach yn y maes, ac yn osgoi ar yr un pryd ganlyniadau anfwriadol deddfu, gan gynnwys yr anawsterau tebygol wrth weithredu deddfwriaeth barcio."
Cwmni'n bwriadu apelio
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, y byddan nhw'n cyfrannu at ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar weithrediadau cwmnïau meysydd parcio preifat.
"Fel rhan o'n gwaith hybu a hwyluso mae fy swyddogion mewn cyswllt uniongyrchol gyda nifer o gwmnïau parcio, ac yn eu hannog i ystyried y Gymraeg ymhob elfen o'u gwaith," meddai.
"Mae nifer eisoes wedi ac yn addasu eu peiriannau, gwefannau ac apiau i gynnwys y Gymraeg."
Mae Eifion Lloyd Jones, sy'n aelod o fwrdd Dyfodol i'r Iaith, wedi bod yn herio awdurdodau lleol a chwmnïau preifat i weithredu'n ddwyieithog ers 40 mlynedd mewn meysydd parcio yn Yr Wyddgrug, Rhuthun, Dinbych a Llandudno.
Dywedodd ei fod wedi'i "synnu a'i siomi" gan ymateb Llywodraeth Cymru.
"Mae'n fy rhyfeddu fod Gweinidog y Gymraeg yn Senedd Cymru yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio," meddai.
"Onid Gweinidog y Gymraeg yn Senedd Cymru ddyle fod yn sicrhau fod yna ddeddf dros hawliau'r Gymraeg?"
Dywedodd mai ei obaith yw y byddai rhybudd y barnwr yn arwain at weld diwedd cosbi Cymry am fynnu gohebiaeth Gymraeg, ond mae'n "rhagweld y bydd y brwydro'n parhau am gyfnod eto".
Mewn datganiad dywedodd cwmni SIP Ltd wrth Newyddion S4C eu bod yn siomedig â dyfarniad y llys.
"Rydym yn aros am y dyfarniad ysgrifenedig fel y gallwn gymryd y camau priodol," meddai.
"Fodd bynnag, rydym yn rhagweld y byddwn yn apelio yn erbyn y penderfyniad gan ei fod yn anghywir yn ôl y gyfraith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021