24 awr o stormydd posib ar draws Cymru ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd storm o daranauFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd rhybudd melyn mewn grym ar draws Cymru rhwng 00:00 a 23:59 ddydd Sul

Fe allai glaw trwm a stormydd o daranau achos trafferthion ymhob rhan o Gymru yn ystod ail hanner y penwythnos, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Fe fydd rhybudd melyn mewn grym ar draws Cymru rhwng 12:00 a 23:59 ddydd Sul.

Er y bydd y rhan fwyaf o lefydd yn gweld maint cymharol fach o law, mae'r arbenigwyr yn rhagweld hyd at 30mm o law o fewn awr mewn rhai mannau, a 60mm o fewn chwe awr.

Mae yna botensial hefyd o fellt niferus, gwyntoedd cryfion a chenllysg, gyda'r posibilrwydd o lifogydd a thrafferthion i deithwyr.

Ond mae yna rybudd bod yna gryn ansicrwydd ar hyn o bryd pa ardaloedd yn union sy'n debygol o weld y tywydd gwaethaf.

Pynciau cysylltiedig