300 mlynedd o dwristiaeth ar yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Tua 20 o bobl ar y copa tua 1880 a chiw hir yn fwy diweddarFfynhonnell y llun, SSPL/Getty/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Copa'r Wyddfa tua 1880 ac yn fwy diweddar

Mae golygfeydd o bobl yn ciwio i gyrraedd copa'r Wyddfa wedi dod yn rhywbeth cyffredin ers sawl blwyddyn.

Ond dydi gweld cannoedd o ymwelwyr yn heidio i Eryri ddim yn beth newydd.

Daw'r disgrifiadau cynharaf o ddringo'r Wyddfa gan fotanegwyr, gyda'r cofnod cyntaf gan Thomas Johnson yn 1639.

Bryd hynny, planhigion prin oedd yn cael eu casglu o'r llethrau a hynny gyda help y bobl leol - heddiw mae gwirfoddolwyr lleol yn helpu i gasglu sbwriel sydd wedi ei adael ar y mynydd gan gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cyflogi pobl leol

Dri chan mlynedd yn ôl roedd pobl leol yn cael eu cyflogi fel tywyswyr i ddangos lle roedd y planhigion i'r gwyddonwyr a'r casglwyr.

Mae'r actor Wyn Bowen Harries wedi gwneud llawer o ymchwil i'r hanes ar gyfer sioe lwyfan o'r enw Creigiau Geirwon fydd yn cael ei llwyfannu gan gwmni Pendraw yn Pontio, Bangor rhwng 22-24 Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Pendraw
Disgrifiad o’r llun,

Cast Creigiau Geirwon; Llŷr Evans, Iwan Charles, Manon Wilkinson

"Roedden nhw'n cyflogi pobl leol, pobl Llanberis fel arfer a Nant Peris hefyd, pobl fel John Hughes, Eleias Roberts a William Wiliams - Wil Boots, botanic guide - a gafodd y llys-enw am ei fod yn bootman mewn gwesty yn Llanberis. Roedd yn enwog iawn yn ei ddydd."

Roedd yna ferched hefyd "yn dringo mynyddoedd yn eu sgertiau mawr".

Ffynhonnell y llun, Storiel
Disgrifiad o’r llun,

Daeth William Williams - Wil Bŵts - yn adnabyddus fel tywysydd ar yr Wyddfa. Yn ôl yr hanes, byddai weithiau'n dringo i'r copa hyd at dair gwaith mewn diwrnod, tra byddai'r ymwelwyr yn teithio i ben y mynydd ar gefn ceffylau

Fe fydden nhw'n dringo i'r llefydd rhyfeddaf i ffeindio'r planhigion ac yn defnyddio rhaffau i fynd i fyny ochrau clogwyni, meddai Wyn.

"Roedd rhain yn chwilio am fusnes gan yr holl bobl yma oedd yn dod yn eu cannoedd i Eryri - dydi o ddim yn beth newydd o gwbl bod pobl yn ymweld â'r mynyddoedd yma.

"Roedden nhw'n mynd i fyny a lawr yr Wyddfa tua tair neu bedair gwaith y dydd ac yn teithio 30 milltir ar draws yr holl fynyddoedd i bob man. Ond yr Wyddfa oedd y prif fan - roedd pawb eisiau mynd i ben yr Wyddfa, a does dim byd wedi newid heddiw.

"Roedd The Great Fern Collecting Crazy yn y 19eg ganrif, lle roedd pobl yn mynd i bob man er mwyn hel y planhigion prin yma jest er mwyn dangos eu bod nhw'n keeping up with the Joneses ac roedd hyn yn creu lot o broblemau, fod y planhigion prin yma'n diflannu yn sydyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wyn Bowen Harries yn gyfarwyddwr Cwmni Pendraw sy'n ceisio cyfuno theatr gyda hanes a gwyddoniaeth

"Ond roedden nhw'n hollol wallgo am hel y planhigion yma ac roedd pobl leol yn gwneud pres mawr allan o werthu'r rhain.

"Nhw [y bobl leol] oedd â'r wybodaeth i gludo pobl yn saff i fyny a lawr y mynyddoedd yma a hefyd nhw oedd yr unig bobl oedd â'r wybodaeth gynhenid o wybod lle roedd y planhigion prin 'ma."

Newid hinsawdd a cholli planhigion

Nod cwmni Pendraw yw cyflwyno sioeau hanesyddol gydag elfen wyddonol iddyn nhw.

"Yr elfen wyddonol sy'n perthyn i'r stori yma wrth gwrs ydy colled bioamrywiaeth a cholled planhigion prin ar y mynydd," meddai Wyn Bowen Harries.

"A'r eironi ydy bod pobl wedi dechrau dod i chwilio amdanyn nhw tua tair canrif yn ôl bellach a bod rhain yn prysur ddiflannu heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder am ddyfodol Lili'r Wyddfa wrth i'r hinsawdd gynhesu

Erbyn diwedd y 18fed Ganrif roedd casglu planhigion wedi dod mor boblogaidd nes bod rhai yn poeni y byddai rhywogaethau prin yn diflannu'n gyfan gwbl.

Fe ddigwyddodd hynny, ond "nid oherwydd bod pobl wedi bod yn eu casglu nhw dros y blynyddoedd" meddai Wyn Bowen Harries "ond oherwydd bod yr hinsawdd yn newid a'r planhigion prin Alpaidd yma, fel Lili'r Wyddfa - ddim yn gallu dioddef y gwres - maen nhw angen bod yn oer, oer, oer ar dopiau'r mynyddoedd yma."

Ffynhonnell y llun, Cwmni Pendraw
Disgrifiad o’r llun,

Creigiau Geirwon

Wrth i'r hinsawdd gynhesu mae pryder am ddyfodol y blodyn bach yma a gafodd ei ddarganfod gan y botanegydd o Gymro, Edward Llwyd. Rhannau o ogledd Eryri yw'r unig le mae'n tyfu ym Mhrydain.

"Mae'n rhyw fath o symbol o Eryri. Ond ydi o'n mynd i ddal i fod yno mewn ychydig o flynyddoedd?"

Cabanau

Rhai o'r enwau mawr fu yn Eryri yw Charles Darwin, George Borrow a Samuel Coleridge, ac wedyn dechreuodd artistiaid a beirdd ddod hefyd i geisio canfod yr awen yn y golygfeydd hardd.

"Roedd y bobl yma yn heidio yma ar un cyfnod ac wrth gwrs roedd hyn yn creu mwy a mwy o waith i bobl leol.

"Roedden nhw hefyd wedi dechrau adeiladu cabanau ar ben yr Wyddfa er mwyn gwerthu diodydd a bwyd a hyd yn oed cynnig gwely a brecwast gan ei bod yn ffasiynol iawn i fynd i fyny i ben yr Wyddfa i weld y wawr yn torri.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o'r copa, tua 1865 - byddai pobl leol yn gwerthu bwyd, diod a chofroddion i ymwelwyr o'r cabanau

"Roedden nhw'n adeiladu cabanau reit yn agos at gopa'r Wyddfa - roedd na ryw fath o gystadleuaeth rhyngddyn nhw pwy oedd â'r caban mwyaf, y caban gorau... fe fydden nhw'n arwain pobl i fyny ac yn creu busnes arall i werthu pethau."

Tywysydd arall adnabyddus yn yr 19eg Ganrif oedd Moses Williams; mae Allt Moses yn enw ar ran o un o lwybrau'r Wyddfa.

Fe fyddai llawer o'r ymwelwyr cefnog yn synnu at dlodi'r ardal ac yn mwynhau cael eu difyrru gan bobl leol oedd yn canu'r delyn iddyn nhw ac yn dweud straeon arswyd neu adrodd chwedlau lleol.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Pendraw
Disgrifiad o’r llun,

Cast Creigiau Geirwon yn ymarfer sy'n cynnwys Iwan Charles, Llŷr Evans, Manon Wilkinson

Erbyn y 18fed a'r 19eg Ganrif daeth y chwareli â gwaith i nifer. Ond gyda'r chwareli bellach wedi cau mae'r rhod wedi troi unwaith eto a'r ardal yn pwyso'n drwm ar dwristiaeth.

Hefyd o ddidordeb: