Lluniau Pride Cymru 2023

  • Cyhoeddwyd
Yr ifanc yn joio Dolly Parton ExperienceFfynhonnell y llun, Betsan Evans

Dros benwythnos 17-18 Mehefin roedd digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd.

Gorymdeithiodd miloedd o bobl drwy strydoedd y brifddinas ddydd Sadwrn, a Chastell Caerdydd oedd lleoliad perfformiadau cerddorol, comedi a mwy dros y penwythnos.

Roedd teimlad o barti ar strydoedd Caerdydd ddydd Sadwrn...

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

... tra bod teimlad ychydig mwy hamddenol brynhawn Sul.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Y gantores Bronwen Lewis ar y ffordd i'r brif lwyfan gyda munudau i fynd... ond mae digon o amser i aros i gael clonc gyda'i ffans.

Aelodau o House of Deviant - yr unig grŵp drag ag anghenion dysgu yng Nghymru - yn mwynhau'r orymdaith.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Connie Orff oedd yn agor y brif lwyfan anferth Ddydd Sul gyda'i set ddwyieithog.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Criw ifanc yn mwynhau perfformiad Dolly Parton Experience.

Roedd Aida H Dee, yn ei ffrog balŵns amryliw, hefyd yn cynnal sesiwn amser stori.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Balchder ar y Sul a chroeso i bawb.

Roedd digon o liw... a digon o falŵns...

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Gwyntyll amryliw - jest y peth yn y tywydd braf.

Ffynhonnell y llun, Urdd

Roedd Mistar Urdd yn gorymdeithio yn ei het enfys anferth.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Dwy fam gyda'u plant yn joio'r dathliadau.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

"Maggi Maggi Maggi!" - mae'n rhaid cael llun gyda Maggi Nogi.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Balchder wrth fwynhau Pride Cymru 2023.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig