Miloedd yn dathlu yng ngorymdaith fwyaf Pride Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Pride Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cynnal eu gorymdaith fwyaf erioed ers dechrau'r digwyddiad 24 mlynedd yn ôl.
Am y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl fydd holl berfformiadau'r penwythnos yn digwydd yng Nghastell Caerdydd - gan gynnwys perfformiadau drag, comedi a'r gantores Sophie Ellis Bextor.
Bydd hefyd tipyn o Gymraeg i'w chlywed ymysg yr holl adloniant ar lwyfan S4C yn y castell. Nos Sadwrn mae Tara Bandito ac Ellis Lloyd Jones yn perfformio ac yn cynnwys Cymraeg yn eu setiau.
Tra bod miloedd wedi dod i ddathlu'r gymuned LHDTC+ yn y brif ddinas ddydd Sadwrn dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod angen sicrhau bod digwyddiadau Pride yn digwydd ledled y wlad.
"Gwych dathlu trwy'r Gymraeg"
Yn ôl Ellis Lloyd Jones, sydd yn perfformio yn yr ŵyl, mae'r Gymraeg wedi bod ar goll o ddigwyddiadau Pride yn y gorffennol.
"Mae mor wych bod ni'n gallu dathlu rhywbeth fel hwn ond hefyd yn yr iaith Gymraeg."
"Pryd o'n i'n tyfu lan oedd dim lot o bethau fel hwn trwy'r iaith Gymraeg. O'n i'n teimlo bach yn unig yn y ffordd 'na."
Ar ôl i filoedd o bobl orymdeithio drwy ganol y ddinas mae'n dangos pa mor bell mae'r gymuned LHDTC+ wedi dod yng Nghymru.
Dywedodd yr actor Stifyn Parri: "Tan o'n i'n 26 oedd gennai ofn mynd i unrhyw far hoyw. Ac erbyn hyn mae'n edrych fel bod Cymru gyfan wedi dod heddiw i'n supportio ni."
"Mae'r holl beth wedi newid yn gyfan gwbl. Mae 'na lot o waith i'w wneud wrth gwrs. Yn anffodus iawn mae pobl dal yn cael eu lladd oherwydd eu bod nhw yn hoyw."
Mae'n debyg wnaeth dros 10,000 o bobl gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd. Dyma'r nifer fwyaf yn hanes Pride Cymru.
Roedd y dorf dros filltir a hanner o hyd, ac yn gorymdeithio am dros ddwy awr.
Yn ôl Dan Walsh cyfarwyddwr Pride Cymru mae'r niferoedd i'w croesawi.
"Mae'n hollol wych gweld fel mae'r digwyddiad wedi tyfu a faint o bobl sy'n cefnogi ac yn barod i ymgyrchu," dywedodd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Fel Llywodraeth ni'n hapus dros ben i ffeindio arian i helpu i gael pethau nid jest fan hyn yng Nghaerdydd neu Abertawe neu Casnewydd ond ledled Cymru mewn cymunedau fach hefyd.
"Ni ar llwybr nawr ar ôl llwyddo i neud pethau fan hyn i neud pethau o'r un fath ledled Cymru."
"Mae angen edrych ymlaen a neud mwy yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023