Dosbarth dysgwyr yn helpu datrys dirgelwch nodyn o 1960

  • Cyhoeddwyd
LlythyrFfynhonnell y llun, RICHARD WARD
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y nodyn o 1960 ei ddarganfod wrth i waith adnewyddu gael ei wneud ar y tŷ

Ry'ch chi'n gallu dod o hyd i bob math o bethau annisgwyl wrth wneud gwaith adnewyddu eich hun, neu DIY.

Yn aml maen nhw'n bethau annymunol fel problemau anweledig gyda'r adeilad sy'n arwain at fwy o waith.

Ond i gwpl o Bontarfynach, fe wnaeth ddarganfyddiad annisgwyl arwain at ychydig o waith ditectif, gyda chymorth eu dosbarth dysgu Cymraeg, a chysylltiad newydd gyda merch cyn-bostfeistr y pentref.

Symudodd Richard a Tracy Ward o Lundain i Bontarfynach yng Ngheredigion ddwy flynedd yn ôl, gan brynu cyn-swyddfa bost y pentref.

Ffynhonnell y llun, RICHARD WARD
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tracy a Richard Ward wrthi yn dysgu Cymraeg

Pan roedd y cwpl yn adnewyddu eu cartref newydd fe ddaethon nhw o hyd i nodyn a gafodd ei adael dros 60 o flynyddoedd yn ôl o dan y grisiau.

Roedd y nodyn wedi'i ysgrifennu â llaw ac yn dweud: "Rhoddwyd y papur yma yn y fan hyn gan Trefor Griffiths, Y Llythyrdy, Pontarfynach ar y degfed o Fawrth 1960. Pwy caiff ef tybed?"

Mae Richard a Tracy wedi dechrau dysgu Cymraeg ers mis Medi y llynedd felly aethon nhw â'r nodyn i'w dosbarth er mwyn i'r tiwtor, Zoe Pettinger, ei gyfieithu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfr Trefor Griffiths - Hapus Dyrfa - yn sôn am bobl Pontarfynach

Roedd y diweddar Trefor Griffiths yn awdur ac yn bostfeistr ym Mhontarfynach. Ym 1975 fe ysgrifennodd lyfr am bobl y pentref sydd â'r teitl Hapus Dyrfa.

Llwyddodd y dosbarth Cymraeg i gysylltu gyda Nerys Hughes - merch Trefor Griffiths - sy'n byw yn Rhuthun.

Fe soniodd hi wrth y dosbarth am lyfr ei thad ac maen nhw nawr yn edrych ymlaen at roi cynnig ar ei ddarllen a chroesawu Nerys i'r dosbarth rhyw ddydd.

Roedd Nerys wrth ei bodd bod y nodyn wedi cyrraedd y dosbarth, ac mae'n bwriadu ymweld â nhw'n fuan.

Dywedodd Nerys: "Fel teulu, 'dyn ni wrth ein bodd gyda'r stori. Roedd gweld ysgrifen fy nhad ar y nodyn yn brofiad emosiynol ac arbennig iawn.

"Da iawn chi Richard a Tracy am fynd â'r nodyn i'r dosbarth. 'Dw i'n edrych ymlaen at sgwrsio gyda'r dosbarth am fy nhad, yr hen swyddfa bost a Phontarfynach 'nôl yn y 1960au."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nerys Hughes yn bwriadu ymweld â Dosbarth Cymraeg Pontarfynach

Ychwanegodd eu tiwtor Zoe Pettinger: "Mae wedi bod yn fendigedig gweld y dosbarth yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y stori hon.

"'Dw i'n meddwl y byddai Trefor Griffiths yn falch iawn o ddeall bod y nodyn wedi cyrraedd 28 o ddysgwyr brwdfrydig ym Mhontarfynach!

"'Dw i'n edrych ymlaen at groesawu Nerys i'r dosbarth a chlywed yr hyn sydd ganddi i'w rannu gyda ni."

Pynciau cysylltiedig