Dychwelyd llythyrau caru o 1948 i deulu'r awdur
- Cyhoeddwyd
Ugain mlynedd yn ôl, pan oedd o'n gwagio tŷ, daeth gŵr Ann Huws o Fodedern, Ynys Môn o hyd i focs o lythyrau caru oedd yn dyddio yn ôl i 1948.
A diolch i bŵer y cyfryngau cymdeithasol, mae'r llythyrau bellach yn ôl yn nwylo teulu awdur y llythyrau.
"Fi roddodd nhw yn yr atig, ac anghofio eu bod nhw yna," cofiodd Ann.
"Blynyddoedd maith yn ôl, o'dd y gŵr yn clirio tai, ac mae'r llythyrau wedi dod o un o'r tai yna. Y rheswm gadwodd y gŵr nhw, coeliwch neu beidio, bod o'n meddwl bod y stamps werth rhywbeth. A mae'n rhaid mod i wedi syrffedu eu gweld nhw o gwmpas y tŷ a 'di rhoi nhw yn y llofft.
"'Dan ni 'di symud tŷ ac maen nhw wedi dod efo ni.
"Mi es i fyny wythnos diwetha' i'r atig a ca'l hyd i'r llythyrau, a 'nes i eu hail-ddarllen nhw."
Llythyrau gafodd eu hanfon gan ferch o'r enw Buddug ym mhentref Dwyran, Ynys Môn, at I G Jones yn Ysgol Ramadeg Dolgellau ydyn nhw.
"Roedd hi'n ysgrifennu ato bob dydd; beth oedd wedi digwydd y diwrnod cynt, neu beth mae hi'n mynd i'w wneud y diwrnod yna. Mae hi'n 'sgwennu ei bod hi'n ei fethu fo, os ydi hi wedi gweld ei fam o, neu os ydi hi wedi bod i Fangor.
"Mae'n agoriad llygad i mewn i'w bywyd nhw, mewn ffordd, oherwydd mae o fatha dyddiadur o'i bywyd hi. Maen nhw'n lyfli a mor neis i'w darllen."
Defnyddio pŵer y cyfryngau cymdeithasol
Felly, fel soniodd Ann ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, penderfynodd ei bod hi eisiau ceisio dysgu pwy oedd y bobl yn y llythyrau er mwyn eu dychwelyd.
"Dyma fi'n meddwl wrtha fi fy hun - 'be' dwi'n mynd i 'neud efo nhw? Fedrai'm taflu nhw, maen nhw'n rhy bersonol. 'Swn i wrth fy modd 'sa rhywun yn ffeindio llythyrau fel hyn i mi, felly 'nes i benderfynu eu rhoi nhw ar y we."
Rhoddodd yr holl wybodaeth oedd ganddi - oedd ddim yn llawer iawn - a llun o'r llythyrau ar wefan Facebook, yn y gobaith y byddai rhywun yn adnabod yr unigolion.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
O fewn dyddiau, roedd y neges wedi cael ei 'hoffi' filoedd o weithiau. Mae Ann yn cyfaddef nad oedd hi wedi disgwyl yr holl sylw.
"Mi aeth y we yn nyts, i fod yn onest. Ddaeth 'na bobl o bob man. O'dd pobl yn dod i fyny efo enwau pobl ella fasa'n perthyn iddyn nhw. O'ddach chi'n gweld pobl yn cysylltu efo pobl eraill, yn holi 'wyt ti'n 'nabod rhain? Ti'n byw yn yr ardal yma.'"
Cysylltodd rhywun gyda hi gydag enw rhywun oedd o bosib yn ŵyr i'r cwpl, ac ym mhen dim, roedd Ann mewn cysylltiad â Craig Johnson o Langefni.
Ar ôl ychydig o holi, roedd Ann yn hyderus ei bod hi wedi dod o hyd i berthynas y cwpl cariadus:
"Unwaith 'naethon ni ffeindio pwy oedd o, oedden ni'n medru rhoi pethau efo'i gilydd. Dwi'n gwybod bellach eu bod nhw wedi priodi, wedi cael merch, a'r ferch wedyn wedi cael plentyn, sef yr ŵyr.
"Dwi'n reit chuffed o'n hun, mae'n rhaid i mi ddweud, mod i wedi ffeindio pwy bia' nhw."
Y dirgelwch wedi ei ddatrys!
Mae Ann bellach wedi cael cyfarfod ŵyr Buddug a Ieuan Jones i roi'r llythyrau gwerthfawr yn ôl i'r teulu ar ôl degawdau, ac roedd Craig wrth ei fodd yn eu derbyn, er ei fod wedi cael dipyn o sioc!
"Dydi rhywbeth fel yma ddim yn digwydd bob dydd, nac'di?" meddai wrth Cymru Fyw.
"'Naeth un o ffrindiau ysgol gynradd fy mam gysylltu efo fi ar Facebook, achos ei bod hi wedi gweld y neges ac yn adnabod y cyfeiriad o pan oedd Mam yn blentyn."
Mae Craig yn gallu llenwi dipyn bach ar y bylchau yn stori Buddug a Ieuan:
"Mae'r llythyrau yn dyddio o tua 1948, ac fe briodon nhw yn 1950. Fe gawson nhw un ferch, Elena Dwynwen, rhyw bum mlynedd yn ddiweddarach.
"Dwi'n meddwl fyddai nhw wedi bod yn eu 30au cynnar yn ysgrifennu'r llythyrau. Roedd Taid yn athro gwaith coed yn ysgol Dolgellau.
"Yn y tŷ yn Dwyran y cafodd Nain ei geni. Collodd ei rhieni yn eitha' cynnar, ac fe etifeddodd y tŷ, felly symudodd Taid yno ati.
"'Nes i erioed gyfarfod Nain, achos 'naeth hi farw yn 1985 cyn i mi gael fy ngeni. O'n i tua chwech neu saith pan 'naeth Taid farw yn 1995, felly dwi'n ei gofio ychydig. Daeth o i fyw efo ni am rhyw flwyddyn neu ddwy cyn iddo fo farw.
"Y tŷ gafodd ei glirio, lle cafodd y llythyrau eu ffeindio, oedd fy nghartref yn tyfu fyny, yn Trefor, Ynys Môn. Felly pan ddaeth Taid i fyw efo ni, daeth y llythyrau efo fo, ac aethon nhw i'r atig."
Mae Craig wedi gwirioni fod y llythyrau wedi dod yn ôl at y teulu, ac mae'n bwriadu eu trysori, meddai.
"Bu farw Mam dair blynedd yn ôl, felly mae'n arbennig iawn.
"Mae gen i ddau fab, ac mae fy mab hynaf jest yn cofio mam ychydig, achos ei fod o'n 18 mis pan 'naeth hi farw, ond cafodd yr ieuenga' ei eni ar ôl iddi farw.
"Felly mae ganddon ni focs atgofion, ac mi geith y llythyrau yma fynd i mewn ynddo rŵan, hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: