Morgannwg yn colli yn y T20

  • Cyhoeddwyd
morgannwg cricedFfynhonnell y llun, BBbc

Pylu mae gobeithion Morgannwg o orffen ym mhedwar uchaf Grŵp y De yn y T20 ar ôl colli i Surrey.

Sam Curran wnaeth y difrod, gyda 59 o rediadau o 22 pêl, a Surrey yn gorffen ar gyfanswm o 238 am 5.

Roedd hynny ar ôl i Forgannwg fatio'n gyntaf, gan orffen ar 157 am 8.

O ran Morgannwg fe gyfrannodd Chris Cooke 45 o 22 pêl.

Buddugoliaeth i Surrey felly o 81 rhediad.

Pynciau cysylltiedig