Dedfrydu perchennog parc trampolîn wedi anafiadau i blant

  • Cyhoeddwyd
Supajump
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fod yr offer yn Supajump yn beryglus

Mae perchennog parc trampolinau yng Nghaerdydd wedi cael dedfryd o 10 mis o garchar wedi ei ohirio ar ôl iddo fethu ag adrodd fod plant wedi eu hanafu'n ddifrifol yno.

Fe dorrodd pedwar o blant eu coesau ym mharc trampolinau Supajump yn ardal Sblot yng Nghaerdydd rhwng Ebrill 2018 ac Awst 2019.

Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fod yr offer yn Supajump yn beryglus, fod padin ar goll neu'n rhy denau a bod yna fylchau rhwng offer lle gallai plant fynd yn sownd.

Doedd dim trefn asesu risg na hyfforddiant digonol i staff, na chanllawiau diogelwch i ddefnyddwyr.

'Anwybyddu ceisiadau am welliannau'

Yn ôl yr erlyniad, roedd perchennog y safle, Phillip Booth, yn anwybyddu ceisiadau Cyngor Caerdydd i gyflwyno gwelliannau er gwaethaf ymweliadau cyson a chymorth gan swyddogion.

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr aelod cabinet dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol: "Yn syml, cafodd plant eu rhoi mewn perygl a'u hanafu.

Phillip Booth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Phillip Booth wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad blaenorol

"Mae'r digwyddiadau a ddigwyddodd yn dangos diystyrwch llwyr gan Mr Booth a'i fusnes o'r ddeddfwriaeth sydd ar waith.

"Gan fod y busnes yn dal i weithredu, bydd swyddogion y cyngor yn parhau i fonitro unrhyw gwynion neu bryderon pellach a gawn ac, os bydd angen, yn cymryd camau cyfreithiol pellach yn erbyn y busnes hwn."

Clywodd y llys i Booth, sy'n 61 oed ac yn dod o Gaerdydd, agor y safle ym mis Ebrill 2017 heb gael asesiad diogelwch.

Fe dorrodd merch tair oed ei choes ar ôl i oedolyn lanio arni tra'n neidio ar drampolîn.

Fe dorrodd merch 11 oed ei choes ar ôl taro ffrâm fetel ar waelod pwll llawn darnau sbwng.

Torrodd merch naw oed ei choes ar yr un darn o offer ac fe dorrodd bachgen tair oed ei goes ar ôl glanio'n lletchwith am fod gormod o blant ar drampolîn.

Yn ôl yr erlyniad roedd prinder staff yn broblem gyson, ac weithiau dim ond dau aelod o staff fyddai'n goruchwylio 40 o blant.

Presentational grey line

Sefyllfa 'erchyll'

Cafodd Lilly, 11 oed o Drefynwy, ei hanafu yn Supajump yn Ionawr 2018.

Nid yw'n un o'r pedwar o blant a gafodd eu crybwyll yn y llys.

Amy a'i merch, Lilly
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lilly, yma gyda'i mam Amy, angen platiau metel i sythu ei choes

Dywedodd ei mam, Amy Kirkpatrick, i Lilly dorri dau asgwrn yn ei choes yno, gan olygu nad yw ei choes bellach yn tyfu'n iawn.

"Mae bellach yn tyfu allan ar ongl felly mae angen platiau metel arni i'w sythu," meddai Amy.

Gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un "erchyll", ychwanegodd ei bod wedi "cymryd yn ganiataol bod y bobl sy'n rhedeg y parciau wedi gwneud yr holl bethau diogelwch cywir".

"Mae'n syfrdanol i ddweud y gwir. Dydych chi ddim yn meddwl ymchwilio i'r llefydd hyn cyn i chi fynd â'ch plant."

Dywedodd Lilly: "Roedd yn sioc fawr i mi ac roeddwn i mewn llawer o boen.

"Roeddwn i'n arfer methu â rhedeg yn iawn. Byddai fy nghoes yn brifo weithiau ac ni fyddwn yn gallu neidio o gwmpas."

Presentational grey line

'Ymhell o fod yn ddigonol'

Clywodd y llys fod ymateb y cwmni yn dilyn damweiniau yn annigonol.

Wrth gael eu herio gan rieni'r plant, roedden nhw'n gwadu cyfrifoldeb ac yn mynnu fod staff wedi eu hyfforddi.

Methodd y cwmni ag adrodd fod y damweiniau yma wedi digwydd fel sy'n ofynnol iddyn nhw wneud.

Roedd Booth wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad blaenorol.

Dywedodd y Barnwr Matthew Porter Bryant fod risg o anafiadau'n amlwg yn fuan ar ôl i'r safle agor.

"Fe ddylai hwn fod yn safle ble y byddai plant yn gallu mwynhau cyffro a hwyl heb risg o gael eu hanafu'n ddifrifol," meddai.

Supajump

"Fe ddylen nhw fod wedi gallu ymddiried ynoch chi, ond doedd hi ddim yn bosibl iddyn nhw wneud hynny.

"Fe ddewisoch chi agor pan roedd hi'n amlwg nad oedd hi'n ddiogel i chi wneud hynny, ac er i chi wneud rhywfaint o ymdrech i wella pethau, roedd yr ymdrechion rheiny ymhell o fod yn ddigonol."

Ychwanegodd y barnwr: "Doedd ddim angen cyngor arbenigol arnoch chi i weld beth oedd o'i le.

"Roedd pobl yn dweud wrthoch chi beth oedd o'i le ac fe ddylai synnwyr cyffredin fod wedi bod yn ddigon.

"O ganlyniad fe ddioddefodd nifer o blant anafiadau sylweddol a chas."

Pynciau cysylltiedig