12 o ddefaid wedi'u lladd mewn ymosodiadau ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i 12 o ddefaid gael eu lladd mewn ymosodiadau ar Ynys Môn dros yr wythnosau diwethaf.
Dydd Sadwrn fe dderbyniodd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad adroddiad am ymosodiad ar dir rhwng Bryngwran a Trefor.
Dywedodd y llu fod pedair dafad a chwe oen wedi eu lladd, gyda mwy wedi eu hanafu.
Roedd hyn ddyddiau yn unig wedi ymosodiad arall lle cafodd dau oen eu lladd ar dir ger Blue Garage yng nghanol Gaerwen.
Yn ôl yr heddlu roedd yr ymosodiad hwnnw wedi digwydd dydd Llun neu ddydd Mawrth diwethaf.
Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw wybodaeth fel rhan o'u hymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023