Cadarnhau achosion o E. coli mewn ysgol yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae dau achos o haint E. coli wedi ei gadarnhau mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ymchwilio i'r achosion gan ddau blentyn yn Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.
Dywedodd y corff eu bod yn cysylltu â rhieni neu ofalwyr plant eraill allai fod wedi bod mewn cyswllt â'r ddau sydd wedi'u heintio.
Dywedon nhw eu bod yn eu cynghori ar sut i osgoi neu reoli'r haint, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel STEC, a beth i'w wneud os yw eu plentyn yn datblygu symptomau.
'Gall fod yn ddifrifol'
Dywedodd Richard Firth, ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ICC: "Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu fod y salwch wedi ei ledaenu na'i ddal yn yr ysgol.
"Gall heintiau STEC fod yn ddifrifol ac yn aml achosi dolur rhydd difrifol, gyda gwaed ynddo o bryd i'w gilydd, dolur yn yr abdomen a thwymyn.
"Fe ddylai unrhyw un sydd â dolur rhydd neu sy'n chwydu gadw draw o'r ysgol, meithrinfa neu'r gwaith tan eu bod nhw'n cael cyngor meddygol proffesiynol eu bod yn ddigon da i ddychwelyd neu os nad ydyn nhw wedi profi symptomau ers o leiaf 48 awr."
Fe ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd â phryderon am eu hiechyd gysylltu â'u meddyg teulu neu GIG Cymru ar 0845 46 47.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022