Morgannwg yn rhwystredig wedi gêm gyfartal â Sussex
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Sam Northeast 104 yn ail fatiad Morgannwg
Cyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Sussex yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.
Morgannwg fatiodd gyntaf gan gyrraedd 242 gyda chyfraniadau o 66 gan Billy Root a 44 heb fod allan gan Timm van der Gugten.
Nid oedd Sussex yn gallu pasio'r sgôr hwnnw yn eu batiad nhw, gan orffen ar 203 o rediadau wrth i Mitchell Swepson a James Harris gymryd tair wiced yr un.
Ymestyn y fantais yn sylweddol wnaeth Morgannwg yn yr ail fatiad, gyda Sam Northeast yn sgorio 104 wrth i'r Cymru gyrraedd 319.
359 oedd y targed i Sussex ennill y gêm felly ar y diwrnod olaf, ac er i Forgannwg gymryd 9 wiced, doedden nhw methu â chael y wiced olaf hollbwysig, wrth i Sussex orffen ar 273-9 a hawlio gêm gyfartal.