Teulu yn parhau i chwilio am atebion i ddiflaniad dyn 25 oed

  • Cyhoeddwyd
James NutleyFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Mae diflaniad James Nutley yn 2004 yn parhau'n ddirgelwch i'w rieni

Mae rhieni dyn sydd wedi bod ar goll am bron i 19 o flynyddoedd yn dweud eu bod yn gobeithio y gallai diddordeb o'r newydd yn yr achos roi atebion iddynt am ei ddiflaniad

Fe wnaeth James Nutley, oedd yn 25, ddiflannu tra ar drip golff yn Ninbych-y-Pysgod ar 24 Hydref 2004.

Ar ôl ymweld â thair tafarn cafodd ei weld ddiwethaf ar gamerâu cylch cyfyng am 23:57. Ond mae beth ddigwyddodd iddo wedyn yn parhau'n ddirgelwch.

Dywedodd ei dad Jeffrey fod yr holl ddigwyddiad yn parhau yn eu meddyliau drwy'r amser.

"Roeddem yn meddwl byddai'n troi lan mewn diwrnod neu ddau - ac 20 mlynedd yn ddiweddarach rydym dal yn meddwl 'ble mae 'e."

Catherine a Jeffrey Nutley
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Catherine a Jeffrey Nutley eu bod yn parhau i fyw mewn gobaith

Ar adeg ei ddiflaniad roedd James yn byw yng Nghil-y-coed, Sir Fynwy gyda'i rieni a'i chwaer.

Nid yw ei rieni yn credu iddo ladd ei hun, gan ddweud ei fod yn berson hapus, wrth ei fodd gyda golff ac yn gweithio yn ei swydd ddelfrydol, sef arddangos clybiau golff a sut i'w defnyddio.

Yn ôl ei fam, Catherine, mae hi'n cofio ei mab yn llawn cyffro wrth adael y tŷ i fynd ar y trip gyda'i ffrindiau.

Dywedodd ei bod wedi clywed gyntaf fod rhywbeth o'i le pan ddaeth ei chwaer a ffrind i'w gweld yn ei gwaith.

"Dywedodd 'ma James ar goll yn Ninbych-y-pysgod."

James Nutley
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James ei weld olaf argamerâu cylch cyfyng yn Ninbych-y-Pysgod

"Cafodd Jeffrey alwad ffôn hefyd ac roedd e' mewn tipyn o stad."

Fe deithiodd hi i Ddinbych-y-pysgod ar unwaith, gyda'i gŵr yn aros wrth y ffôn rhag ofn bod James yn galw.

Yna, cafodd Catherine wybod fod peth o eiddo James - yn cynnwys trwydded yrru - wedi eu darganfod ar draeth yn y dre.

Prin yw'r cliwiau ar ôl hynny.

Dywedodd fod ambell sôn fod rhywun wedi ei weld mewn gwahanol leoliadau ond yn ôl Catherine doedd dim byd pendant. Mae'r teulu hyd yn oed wedi gorfod dygymod â honiadau ffug.

Hen lun o James gyda'i chwaer a'i famFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu James ei fod yn berson hapus a bodlon cyn iddo ddiflannu

Dywedodd Catherine i arolygydd o'r heddlu ffonio ar un adeg eisiau eu gweld.

"Dywedodd bod yna ddatblygiadau wedi bod ac mae'r person yma yn honni iddo lofruddio James."

Clywodd y teulu fod Richard Fairbrass wedi rhoi manylion manwl i'r heddlu sut iddo ef a'i gariad lofruddio James a thaflu ei gorff i'r môr.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Fairbrass gyfaddef mai celwydd oedd y stori ac yn 2006 fe gafodd ei garcharu am ddwy flynedd am geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

James a'i deuluFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu James yn olffwyr brwd

Yn ddiweddar, mae'r Catherine a Jeffrey wedi cael eu cyfweld fel rhan o bodlediadau The Missing - cyfres sy'n canolbwyntio ar bobl sydd wedi bod ar goll am gyfnod hir, gan ofyn i'r gwrandawyr ddod yn rhan o'r ymchwiliad.

Mae'r podlediad wedi ysgogi diddordeb o'r newydd yn achos James.

Felly beth mae Catherine a Jeffrey yn ei gredu ddigwyddodd ar y noson honno yn Hydref 2004?

"A oedd James wedi trefnu cwrdd â rhywun i fynd bant a dechrau bywyd gwahanol? Neu a wnaeth rhywun ei gipio? Mae yna dal cwestiynau," meddai Catherine.

"Roeddem yn meddwl 'mae'n fwy na thebyg yn Sbaen erbyn hyn yn gorwedd ar draeth' a 'dan ni'n dal i feddwl fe allai fod yn Sbaen oni bai bod rhywun yn dweud yn wahanol, " meddai Jeffrey.

papur newydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bron i 20 mlynedd ers i James gael ei weld ddiwethaf yn 2004

Dywed y cwpl eu bod wedi gorfod dysgu i barhau gyda'u bywydau gan fyw gyda'r byrdwn o beidio â gwybod beth ddigwyddodd i'w mab

Dywedodd Catherine bob tro ei bod hi'n gweld rhywun yn cardota yn y stryd, mae'n rhaid iddi edrych yn fanwl arno rhag ofn drwy siawns mai James sydd yno.

Dyw'r ddau riant ddim wedi rhoi'r gorau i obeithio. Er gwaetha'r bwlch o bron i 20 mlynedd maen nhw'n credu ei bod yn dal yn bosib y byddan nhw'n gweld eu mab rhyw ddiwrnod.

"Wel gallwch chi ddim rhoi'r gorau i obeithio na allwch, hynny tan fod rhywun yn dweud yn wahanol wrthym," meddai Jeffrey.

Pynciau cysylltiedig