Dr Llŷr Roberts, academydd ac arbenigwr busnes, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r academydd a llais amlwg ar fyd busnes yng Nghymru, Dr Llŷr Roberts, wedi marw yn 45 oed.
Yn wreiddiol o Lanrug yng Ngwynedd, roedd Dr Roberts yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Brynrefail cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn Hanes Fodern o Brifysgol Rhydychen.
Gweithiodd i BBC Cymru am gyfnod, cyn mynd ymlaen i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru, ble cafodd ei radd doethuriaeth.
Yn arbenigwr mewn busnes, rheolaeth a marchnata, bu Dr Roberts yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru yn trafod y meysydd hynny dros y blynyddoedd.
Treuliodd nifer o flynyddoedd fel darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, cyn symud i Brifysgol Bangor yn gynharach eleni.
Roedd hefyd yn ddarlithydd cysylltiol gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan hybu addysg yn y maes drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod y staff wedi "eu brawychu a'u tristau" yn dilyn ei farwolaeth.
"Ymunodd Dr Roberts â'r tîm academaidd yn gynharach eleni, ac roedd ei ymagwedd agored a chyfeillgar yn golygu ei fod wedi ennill cyfeillgarwch a pharch ei gyd-academyddion yn gyflym.
"Yn darlithio mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol, roedd Dr Roberts yn ddarlithydd poblogaidd, a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.
"Mae'r Ysgol a'r Brifysgol yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Llŷr ar yr adeg drist hon."
Yn ogystal â'i waith academaidd, roedd hefyd yn Ysgrifennydd i Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.
'Ffrind gofalus ac annwyl'
Mewn teyrnged iddo, dywedodd yr Eisteddfod fod "colli Llŷr yn ergyd drom".
"Bu'n Ysgrifennydd craff a gofalus am nifer o flynyddoedd, a'i wybodaeth fanwl o'n Cyfansoddiad a'r Rheolau Sefydlog yn ddiarhebol," meddai llefarydd.
"Ond roedd Llŷr yn gymaint mwy nag Ysgrifennydd. Roedd o'n glust i wrando a'i gyngor wastad yn ddoeth, yn gefnogol, ac yn heriol i ni fel tîm yn aml.
"Roedd o hefyd yn ffrind gofalus ac annwyl, yn llawn direidi, mor barod ei wên, ac yn gymaint o gefn i ni drwy bopeth.
"Roedd Llŷr ar ei orau yng nghyfarfod y Bwrdd a Chyngor yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf, yn cwestiynu, yn cefnogi ac yn sicrhau bod pob manylyn yn ei le. Dyma sut y byddwn ni'n ei gofio.
"A heddiw, mae ein calonnau ni'n torri. Mae'r golled i bawb yn enfawr, ond yn fwyaf oll i'w deulu, ac rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf atyn nhw mewn cyfnod mor anodd."
Mewn datganiad rhoddodd prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Ioan Matthews deyrnged i "un o'r darlithwyr cyntaf i gael ei benodi i swydd o dan nawdd y Coleg".
"Mae wedi gwneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac i genhadaeth ehangach y Coleg dros y blynyddoedd, a hynny fel addysgwr, awdur a chyfathrebwr wrth reddf," meddai.
Ychwanegodd: "Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i'w gydweithwyr ac i'w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl.
"O fewn cymuned y Coleg mae'r newyddion yn anodd i'w ddirnad; mae nifer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr. Estynnwn ein cydymdeimlad fel Coleg i'w deulu a'i gyfeillion."
'Darlithydd poblogaidd'
Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Bangor fod eu staff a myfyrwyr "wedi'u brawychu a'u tristau" o glywed y newyddion.
"Ymunodd Dr Roberts â'r tîm academaidd yn gynharach eleni, ac roedd ei ymagwedd agored a chyfeillgar yn golygu ei fod wedi ennill cyfeillgarwch a pharch ei gyd-academyddion yn gyflym," meddai llefarydd.
"Yn darlithio mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol, roedd Dr Roberts yn ddarlithydd poblogaidd, a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.
"Mae'r Ysgol a'r Brifysgol yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Llŷr ar yr adeg drist hon."