T20 Blast: Hampshire yn trechu Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Prem Sisodiya yn dathlu cipio wiced nos WenerFfynhonnell y llun, Warren Little/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prem Sisodiya yn dathlu cipio un o wicedi Hampshire Hawks nos Wener

Fe fethodd Morgannwg â chyrraedd targed heriol gan golli yn erbyn Hampshire Hawks wedi i law trwm amharu ar eu gêm T20 Blast yn Southampton nos Wener.

Fe alwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu maesu.

Fe sgoriodd y tîm cartref 97 o rediadau am ddau wiced gyda 10.4 pelawd yn weddill cyn y bu'n rhaid gohirio'r chwarae, gyda Bob McDermott ar 54 heb fod allan.

Ond yna fe ddaeth y glaw a bu'n rhaid gohirio'r chwarae tan 21:55.

Dan y rheol Duckworth Lewis 83 oedd y targed i Forgannwg o fewn llai na chwe phelawd, ac fe gafodd Colin Ingram a Kiran Carlson ddechrau gwych - 19 o'r belawd gyntaf, gydag Ingram yn gyfrifol am 16.

Ond wedi cyfnod o fowlio effeithiol, roedd pethau'n edrych yn llai addawol, ac wrth i'r targed ymddangos yn fwyfwy heriol fe gipiodd Hampshire wiced Ingram (34).

A hithau wedi ailddechrau bwrw, Chris Cooke ddaeth i'r maes yn ei le ac roedd Morgannwg wedi cyrraedd 54-1, wedi pan waethygodd y tywydd.

Penderfynodd y dyfarnwyr i ddod â'r gêm i ben, a gan fod o leiaf pum pelawd wedi eu cwblhau roedd yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Pynciau cysylltiedig