Darganfod capsiwl amser yng nghartref ysbrydol y GIG
- Cyhoeddwyd
Mae adeiladwyr sy'n gweithio ar ganolfan iechyd newydd yng "nghartref ysbrydol" y gwasanaeth iechyd wedi darganfod capsiwl amser.
Fe gafodd ei gladdu dan hen ysbyty ac mae wedi bod ar y safle ers dros 120 mlynedd.
Canolfan Iechyd a Lles Aneurin Bevan fydd enw'r ganolfan newydd - teyrnged i fab enwocaf Tredegar, a'r gwleidydd sy'n cael ei ystyried fel pensaer y gwasanaeth iechyd.
Ond bydd y staff fydd yn dechrau gweithio yma cyn bo hir yn wynebu'r math o alw a phwysau fyddai wedi bod yn anodd ei ddychmygu pan wnaeth Bevan sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) 75 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r ganolfan, sydd wedi costio £19m, wedi cael ei chynllunio er mwyn gallu cynnig sawl gwasanaeth ar yr un safle.
"Er mwyn cadw pobl yn y gymuned a mas o'r ysbytai cymaint â phosib ni'n trio cynnig mwy o ofal yn agos at y cartref," dywedodd Jonathan Lewis o'r bwrdd iechyd.
"Felly fe fydd y ganolfan yn gartref i lwyth o wasanaethau yn cynnwys dau wasanaeth meddyg teulu.
"Hefyd fe fydd 'na wasanaethau cyffredinol - deintydd cymunedol, fferyllfa gymunedol, a phartneriaid trydydd sector a gwasanaethau cymdeithasol i gyd o dan yr un to."
Tra bydd y ganolfan yn ceisio ymateb i heriau'r dyfodol, mae'r adeilad wedi ei wreiddio yn y gorffennol, gan gael ei godi ar seiliau hen ysbyty Tredegar gafodd ei agor 44 o flynyddoedd cyn sefydlu'r gwasanaeth iechyd.
Ac ar ôl derbyn gwybodaeth gan haneswyr lleol cafwyd hyd i gapsiwl amser gan yr adeiladwyr, a gladdwyd pan oedd Aneurin Bevan ei hun ond yn bum mlwydd oed.
Mae'r capsiwl yn taflu goleuni ar y math o bethau oedd yn digwydd yn Nhredegar ar y pryd, ac a fyddai wedi cael dylanwad mawr ar Bevan.
Y capsiwl amser
Fe gafodd y capsiwl ei osod dan seiliau Ysbyty Cymunedol Parc Tredegar yn 1903.
Yn wahanol i'r system heddiw, cafodd yr arian ar gyfer yr ysbyty hwn ei gasglu gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar.
Roedd y gymdeithas yn rhedeg cynllun lle gallai gweithwyr o'r diwydiant haearn neu'r pyllau glo, er enghraifft, gyfrannu rhai ceiniogau o'u cyflog er mwyn talu am ofal iechyd iddyn nhw a'u teuluoedd os y bydden nhw ei angen.
Gofal, fel arall, y byddai nifer heb allu ei fforddio.
Mae'r swyddfa oedd unwaith yn bencadlys i'r mudiad bellach yn ganolfan dreftadaeth.
Dywedodd yr hanesydd Steve Thompson o Brifysgol Aberystwyth, sy'n arbenigo yn hanes meddygaeth: "Yn y cyfnod cyn sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol roedd 'na amrywiaeth o ffyrdd i ddarparu gwasanaethau meddygol.
"Yn aml iawn petasech chi yn y dosbarth canol, fyddai'n bosib mynd i weld meddyg a thalu'r ffi. Ond i bobl dlawd, yn y dosbarth gweithiol, doedd e ddim mor hawdd â hynny.
"Felly roedd gweithwyr yn gorfod datblygu dulliau eraill er mwyn sicrhau bo' nhw'n cael yr hawl i weld meddyg yn y cyfnod cyn 1948."
Ychwanegodd: "Ni'n gweld rhai llefydd yn datblygu gwasanaethau meddygol da iawn, lle'r oedd pawb yn cael yr hawl i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny - aelodau'r teulu ac nid jyst y gweithwyr, lle'r oedd amrywiaeth o wasanaethau.
"Meddyg teulu, yr hawl i fynd i'r ysbyty pan fuasai angen, gwasanaethau eraill wedyn fel deintydd, optegydd ac yn y blaen.
"Bydde Bevan wedi bod yn ymwybodol bod y drefn yn Nhredegar yn arbennig o dda ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned gyfan, ond ar yr un pryd fydde fe wedi bod yn ymwybodol o gynlluniau eraill."
Cynnwys y capsiwl
Fe dreuliodd Peter Meehan, sy'n warchodwr hen greiriau ym Mhrifysgol Caerdydd, oriau yn agor y capsiwl, ond roedd y dasg braidd yn anoddach nag oedd e'n ei ddisgwyl.
"Roedd hi'n dipyn o her," meddai. "Yr hyn wnaethon ni ddarganfod oedd bod y plwm wedi'i rwymo'n dynn iawn i'r pot a'r cynnwys wedi gwasgu'n dynn iawn y tu fewn... ond fe lwyddes i i'w agor e yn diwedd."
Y tu fewn roedd yna ddarnau o arian o'r cyfnod, ond yn fwy arwyddocaol efallai oedd y pedwar papur newydd oedd wedi'u rholio'n dynn at ei gilydd - copïau o'r Tredegar Argus, Western Mail, South Wales Daily News a'r Merthyr Express gafodd eu cyhoeddi rai dyddiau'n unig cyn cau'r capsiwl.
Diolch i'r drefn roedd y rheiny mewn cyflwr digon da i allu darllen yr erthyglau sydd - fel oedd yn nodweddiadol o'r cyfnod - wedi eu hargraffu mewn print bach iawn.
Mae un, er enghraifft, yn sôn am eisteddfod leol, un arall am ymweliad ymerawdwr Awstria â Llundain, ynghyd ag amryw o hysbysebion gan fusnesau lleol.
"Mae 'na rai diddorol, er enghraifft, gan bobl sy'n arbenigo mewn trwsio coetsiau a chertiau ceffylau. Cofiwch dim ond ychydig dros 10 mlynedd oedd wedi bod ers dyfeisio'r cerbyd modur cyntaf," medd Peter.
"Mae 'na ddarn bach hefyd am y ganolfan feddygol newydd [yn Nhredegar].
"Mae hynny'n ein cysylltu yn ôl i'r cychwyn cyntaf ac amser cyn sefydlu'r GIG. Ond gwelwn fod hadau'r syniad hwnnw eisoes yn dechrau tyfu... ac mae hynny'n ddiddorol iawn."
Y gobaith yn y pendraw yw y bydd yr eitemau hyn yn cael eu harddangos yn nerbynfa'r ganolfan iechyd newydd.
Ond am y tro maen nhw i'w gweld ymhlith y miloedd o drugareddau sydd yn yr amgueddfa fach yng nghanol Tredegar.
Edrych ymlaen
Yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Helyg - sydd wedi'i lleoli ger Nantyglo ychydig filltiroedd i'r dwyrain o Dredegar - mae plant Blwyddyn 6 wedi bod yn trafod cynnwys y capsiwl wrth astudio hanes y gwasanaeth iechyd.
"'Ni 'di 'neud lot o waith ar hyn oherwydd mae'r Ysgol Gymraeg newydd yn mynd i fod yn Nhredegar," meddai'r athrawes Grace O'Leary.
"Roedd yn rhaid i'r plant ddylunio bathodyn am hanes y dref ac yn amlwg roedd Aneurin Bevan yn rhan o hynny.
"Fel rhan o ddathliadau y gwasanaeth iechyd yn 75 mi 'nethon ni greu cerdd a darn o gelf am yr hanes.
"Ma' nhw'n ffeindio fe'n ddiddorol iawn bod Aneurin Bevan yn dod o'r un ardal a lle ma' nhw'n byw, ma' nhw'n meddwl fod pobl enwog, fel arfer, yn dod o bell i ffwrdd."
Yn sicr mae cysylltiad y gwasanaeth iechyd a'u cymunedau nhw eu hunain yn ennyn chwilfrydedd y disgyblion. Felly pa brofiadau sydd ganddyn nhw o'r gwasanaeth?
"Fues i'n trio am le yn y tîm rygbi rhanbarthol ac fe dorres i fy mys bawd," meddai Travis. "Roedd yn rhaid i'r nyrs roi cast arno fe iddo fe wella."
Mae'r criw yn ymwybodol o'r pwysau mawr ar y gwasanaeth a'i staff.
"Ma' llwyth o bobl angen help felly ni angen llwyth o ddoctoriaid," meddai Lecsi.
Ychwanegodd Catrin: "Unwaith ges i rywbeth yn fy nghlust, a bues i'n aros pum awr i weld doctor, a dwy awr wedyn i gael triniaeth."
Dywedodd Savannah fod ei mam wedi bod mewn sefyllfa debyg, a bod "angen mwy o ddoctoriaid".
"Roedd hi wedi torri ei choes a gorfod aros pum awr i weld doctor," meddai. "Roedd hi yno o naw y bore a dod 'nôl yn y nos."
Ond er yr heriau, mae pawb yn y dosbarth yn cytuno bod gwasanaeth iechyd sydd yn rhad ac am ddim i'r rhai sydd ei angen yn beth gwerthfawr, fel yr esboniodd Riley.
"Mae'n ddiddorol sut cyn Aneurin Bevan oedd pobl angen talu am feddyginiaeth, ac os oeddech chi wedi brifo roeddech chi'n talu i weld doctor," dywedodd.
"Beth am bobl dlawd sydd angen meddyginiaeth? Fe allai hynny eu lladd nhw os nad oedden nhw'n gallu talu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018