Eluned Morgan: 'Angen i'r cyhoedd helpu diogelu'r GIG'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog iechyd Cymru wedi dweud bod yn rhaid i'r cyhoedd "ddod yn fwy ffit" er mwyn helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Fe wnaeth Eluned Morgan y sylwadau mewn cyfweliad gyda'r BBC i nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed.
Dywedodd fod gweinidogion yn wynebu "penderfyniadau anodd" wrth i'r gwasanaeth iechyd wynebu cynnydd yn y galw a chyfyngiadau ariannol, ac y gallai fod angen i bobl deithio ymhellach i dderbyn gofal arbenigol.
Heriodd y Ceidwadwyr Cymreig honiadau Llywodraeth Cymru nad yw Llywodraeth y DU yn darparu digon o arian ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Roedd Ms Morgan yn siarad wedi i gadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru, Dr Iona Collins, ddweud fod problemau yn y GIG yng Nghymru yn golygu na ellir dibynnu mwyach ar y gwasanaeth.
Dywedodd Ms Morgan fod 80% o alwadau 'coch' - y rhai mwyaf difrifol - yn cael eu hateb o fewn 15 munud.
Ond dywedodd mai diffyg cyllido gan Lywodraeth y DU sydd wrth wraidd rhai o'r "materion anferth" sy'n wynebu'r GIG.
Ychwanegodd Ms Morgan fod y gwasanaeth yn wynebu "problem wirioneddol" gyda "chyfyngiadau ariannol" a chynnydd yn y galw.
"Yn draddodiadol, roeddem yn gwario tua 10% ar ddiabetes. Os yw'n mynd i'r un cyfeiriad fe fydden ni'n gwario 17% yn y blynyddoedd i ddod.
"Does gennym ni ddim arian ychwanegol, felly o ble mae'r arian yna'n mynd i ddod?
"Rydyn ni'n mynd i orfod gwneud rhai penderfyniadau eithaf anodd, ond fe fyddwn ni'n eu gwneud nhw gyda'r cyhoedd."
'Sefyllfa argyfyngus'
Pam ofynnwyd iddi am ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol y GIG, dywedodd: "Mae yna lawer o bethau nad ydyn nhw o fewn y gyllideb iechyd y gallwn ni eu trwsio, ond maen nhw'n ymwneud â thai ac yn ymwneud ag ansawdd aer gwael.
"Ond hefyd mae'n rhaid i ni gael y cyhoedd efallai i ddod gyda ni ar y daith honno i ddeall i ba raddau y gallan nhw helpu eu hunain i ddod yn fwy heini, i fod mewn sefyllfa lle maen nhw yn rhoi cyfleoedd bywyd gwell [i'w hunain] ar gyfer y dyfodol.
"Mae hynny'n sylfaenol."
Ychwanegodd: "Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i weld shifft efallai, lle mae gennym ni ofal yn nes at gartrefi pobl.
"Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio.
"Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o'r math o ymateb brys adweithiol i ymagwedd tymor hirach lle rydyn ni'n derbyn bod y boblogaeth yn heneiddio."
Ond fe ychwanegodd: "Efallai y bydd achlysuron pan fydd angen i bobl deithio ymhellach i dderbyn gofal arbenigol.
"Felly mae hynny'n rhywbeth lle rydyn ni'n mynd i fod angen sgwrs bellach gyda'r cyhoedd."
'Nid dyma'r sefyllfa dros y ffin'
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fe heriodd Russell George honiadau Llywodraeth Cymru nad oedd Llywodraeth y DU yn darparu digon o arian ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Dywedodd: "Rydyn ni'n gwybod am bob punt sy'n cael ei wario ar iechyd yn Lloegr, bod Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20, ond maen nhw'n gwario £1.05 ar iechyd yng Nghymru.
"Nid ydyn nhw wedi diogelu'r gyllideb iechyd yng Nghymru y flwyddyn ariannol hon, ond nid dyna'r sefyllfa dros y ffin."
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru fod Llafur wedi bod yn gofalu am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers 24 mlynedd a'u bod wedi methu â chynllunio ar gyfer y sefyllfa "argyfyngus" bresennol.
"Rydym yn ceisio dal i fyny, a phwy sy'n dioddef? Y cleifion a'r staff," meddai.
"Clywsom rybudd llym gan y BMA yr wythnos hon, a staff sy'n gweithio yn y proffesiwn, yn dweud efallai na fydd gennym ni wasanaeth iechyd yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023