T20 Blast: Middlesex yn trechu Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Tom Bevan o ForgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mi wnaeth Middlesex trechu Morgannwg yn y T20 Blast nos Sul.

Gosododd yr ymwelwyr targed uchel o 200, ond mae'n siŵr bydd Morgannwg yn siomedig efo'r canlyniad wedi dechreuad batio cryf gan y tîm cartref.

Ryan Higgins wnaeth serennu i'r ymwelwyr gan sgorio 71 heb fod allan cyn iddo fynd ymlaen i gael tair wiced.

Gwnaeth Stevie Eskinazi a Joe Cracknell hefyd batio'n dda gyda'r partneriaid yn sgorio 79 cyn y wiced gyntaf.

Dechreuodd Morgannwg eu cyfnod batio yn gryf ond gwnaeth bowlio effeithiol gan yr ymwelwyr ei wneud yn anodd i'r tîm cartref.

Gwnaeth y capten, Kiran Carlson, bwrw 19 yn y belawd gyntaf cyn cyrraedd 50 yn y pumed belawd wedi dim ond 15 pêl - y cyflymaf i chwaraewyr o Forgannwg cyrraedd 50 yn hanes y T20.

Roedd Morgannwg yn gwneud cynnydd da tuag at eu targed ond fe gipiodd Middlesex sawl wiced, gyda bowlio da gan Ethan Bamber a Higgins.

Y sgôr terfynol oedd Middlesex 200-9, Morgannwg 151.

Pynciau cysylltiedig