Dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ty wedi ei ddifrodi
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad nos Iau 29 Mehefin

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Caswell yn ardal Tredelerch tua 22:40 nos Iau 29 Mehefin.

Fe gafodd dyn 58 oed ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno'n ddiweddarach.

Cafodd menyw a phedwar swyddog heddlu eu trin ar ôl anadlu mwg.

Mae ymholiadau'n parhau i geisio canfod achos y tân.

Pynciau cysylltiedig