Newyddiaduraeth: Herio'r sefydliad er mwyn dod o hyd i'r gwir
- Cyhoeddwyd
Mae Meirion Jones yn newyddiadurwr Cymreig sydd wedi gweithio ar rai o straeon ymchwiliol mawr y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys ymchwiliad Newsight i Jimmy Savile a arweiniodd at sgandal a datgelu troseddau Savile. Mae'n ymddangos yn y ddogfen Netflix, Jimmy Savile: A British Horror Story.
Dros y saith mlynedd diwethaf mae wedi arwain y Bureau of Investigative Journalism i fod yr uned ymchwilio fwyaf ymhlith cyhoeddwyr Prydain.
Ac yntau ar fin gadael ei rôl fel golygydd yr uned, gofynnodd BBC Cymru Fyw iddo sut gyflwr sydd ar newyddiaduraeth ymchwiliol yng Nghymru heddiw.
Os ydych chi eisiau teimlo'n galonogol am gyflwr newyddiaduraeth ymchwiliol yng Nghymru does ond angen i chi edrych ar dîm BBC Wales Investigates a chwalodd un o'r sefydliadau mwyaf pwerus a llygredig yng Nghymru ym mis Ionawr - Undeb Rygbi Cymru.
Datgelodd Wyre Davies (rhywun dw i'n 'nabod) a'i dîm Jayne Morgan, Will Fyfe a Karen Voisey (nad ydw i) y cymeriadau mysogenaidd, homoffobig ac anobeithiol sy'n rhedeg y gêm genedlaethol mor ddi-drefn.
Mae yna resymau pam nad yw newyddiadurwyr Cymreig wedi herio URC o'r blaen - efallai gan gynnwys ofn peidio â chael tocynnau aur i'r stadiwm - ond cafodd y rhaglen hon effaith wirioneddol o'r diwedd gan orfodi newid ar Westgate St.
Bydd yna newyddiadurwyr gwych yng Nghymru bob amser ond nid oes ganddynt y craidd o newyddiadurwyr ymchwiliol profiadol sydd gan rywle fel Glasgow er enghraifft.
'Bygwth' i gadw'n dawel
Dw i ar fin rhoi'r gorau i fod yn olygydd y Bureau of Investigative Journalism lle rydw i wedi bod ers saith mlynedd. Rydyn ni wedi ein lleoli yn Llundain yn bennaf ond mae gennym hefyd newyddiadurwyr gwych yng nghanolbarth a gogledd orllewin Lloegr. Mae gennym ni tua 30 o newyddiadurwyr ymchwiliol ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd - rhai yn dechrau, eraill yn brofiadol iawn.
Nid oes uned felly yng Nghymru.
Cyn i mi ddechrau gyda'r Swyddfa, cefais yrfa hir yn y BBC yn gweithio ar Today, PM, World at One, Newsnight a Panorama. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda Sunday Times, Guardian, ITV, Channel 4, New York Times a dwsinau o rai eraill sydd wedi partneru â ni ar ymchwiliadau, felly mae gennyf ddarlun eithaf da o'r sefyllfa yn fwy cyffredinol.
Mae'n gymysg. Mae ymchwiliadau'n ddrud, yn anrhagweladwy a gallant gymryd llawer o amser rheoli, heb sôn am arian, os yw pobl neu gorfforaethau pwerus yr ydych wedi'u cyhuddo o wneud drwg yn erlyn am enllib.
Felly mae'r cyfryngau sydd wedi gweld ei refeniw hysbysebu yn cael ei wasgu gan Facebook a Google, wedi newid adnoddau i bynciau mwy diogel.
Er enghraifft, mae'r Swyddfa'n yn cael ei herlyn ar hyn o bryd. Mae Seneddwyr o bob plaid a sefydliadau rhyddid barn yn ei alw'n SLAPP, sef Strategic Litigation Against Public Participation, lle mae cwmni'n erlyn cyhoeddwyr am iawndal i geisio bygwth gweddill y cyfryngau i gadw'n dawel.
Mae eisoes wedi costio tua £200,000 i ni mewn ffioedd cyfreithiol ac os daw i'r llys gallai'r bil fod yn filiynau. Gallwch weld pam fod grwpiau cyfryngau yn meddwl ddwywaith am gefnogi ymchwiliadau.
Yn ffodus mae yna fesur yn mynd trwy'r senedd a ddylai ei gwneud hi'n haws yn y dyfodol i'r cyfryngau gael y SLAPPs wedi eu taflu allan yn gynt.
Cynnydd a chydnabyddiaeth
Ar yr ochr gadarnhaol sefydlodd Channel 4 dimau ymchwilio newydd y llynedd ac ehangodd y Guardian ei dîm yn aruthrol. Mae yna bethau sydd wedi gwella.
Pan ddechreuais i ar gylchgrawn cyfrifiadurol byddwn yn cael straeon o bryd i'w gilydd a fyddai wedi gweithio i'r tabloids neu ddarlledwr. Doedd dim modd eu perswadio i hyd yn oed siarad â phobl oedd y tu allan i gylch cyfrinachol Fleet St a'r darlledwyr mawr.
Nawr mae hynny wedi newid - os oes gennych chi stori ddigon da bydd y cyfryngau mawr yn siarad â chi, yn rhoi cydnabyddiaeth i chi a hyd yn oed yn talu arian i chi. Mae yna gronfa ehangach o bobl â phrofiadau amrywiol yn bwydo i mewn i'r pwll o straeon, sydd ond yn gallu bod yn beth da.
Hefyd pan ddechreuais i, ychydig iawn o newyddiadurwyr ymchwiliol benywaidd oedd, ond yn fy nghyfnod gyda'r Swyddfa rydym wedi cyflogi - ar sail teilyngdod - mwy o fenywod na dynion. Y grŵp sy'n dal i gael ei dangynrychioli fwyaf yw Caribïaidd Affro - gwrywaidd a benywaidd.
Pan oeddwn i'n gweithio â'r BBC roedden ni - y cynhyrchwyr, ymchwilwyr, criwiau camera, golygyddion lluniau - yn arfer galw'r gohebwyr yn gobs-on-sticks. Roedden nhw'n gallu ymddangos ar y sgrin a chael y clod er mai ni oedd wedi gwneud y gwaith caled.
Doedd hynny ddim yn wir am bob gohebydd wrth gwrs ac roeddwn i'n lwcus i weithio gyda llawer oedd hefyd yn newyddiadurwyr gwych.
Gwn fod hynny'n wir am Wyre a gobeithio y bydd llwyddiant ymchwiliad ei dîm i URC yn annog penaethiaid y cyfryngau i fod yn fwy dewr.
Hefyd o ddiddordeb: