Undeb Rygbi Cymru: 'Cydweithiwr wedi gwneud sylw am fy nhreisio'
- Cyhoeddwyd
Mae un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru wedi dweud iddi ystyried lladd ei hun oherwydd "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn Undeb Rygbi Cymru.
Yn ôl Charlotte Wathan, fe ddywedodd cydweithiwr gwrywaidd wrthi ei fod eisiau ei "threisio".
Mae hi'n dweud i hynny ddigwydd o flaen pobl eraill.
Mae dynes arall, oedd yn gweithio i'r undeb, yn dweud iddi baratoi llawlyfr i'w gŵr rhag ofn iddi ladd ei hun.
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru (URC) bu ymchwiliad i'r ddau achos gan ddilyn y drefn gywir.
'Nes i glywed hynna'n iawn?'
Mae un Aelod Seneddol, sy'n gyn-chwaraewr, wedi rhybuddio fod yr honiadau gyfystyr â sgandal hiliaeth Clwb Criced Swydd Gaerefrog.
Mae Tonia Antoniazzi wedi ysgrifennu at y Tywysog William i ofyn am gyfarfod i "greu dyfodol gwell i ferched yn y gêm yng Nghymru".
Y Tywysog yw noddwr yr undeb.
Cafodd Charlotte Wathan ei phenodi'n Rheolwr Cyffredinol Rygbi Cymru yn 2018. Dywedodd iddi grïo ar ôl i'r sylw ynglŷn â threisio gael ei wneud yn 2019.
"I rywun gyfeirio ata' i mewn awyrgylch swyddfa a dweud eu bod nhw eisiau fy nhreisio i, mynd â fi i stafell gwesty gerllaw, clymu fi i'r gwely a fy nhreisio i…
"Dwi'n cofio cael fy nharo'n fud a meddwl 'a wnes i glywed hynna'n iawn?'" meddai wrth raglen BBC Cymru, Wales Investigates.
"Roedd pawb yn chwerthin, ac roedd yna uwch swyddog yno. Nes i adael yr ystafell a beichio crïo. Ro'n i'n teimlo'n sâl."
Roedd yna ymchwiliad annibynnol maes o law ar ôl iddi wneud cwyn ehangach.
Mae'r BBC yn deall na chafodd rhai o'r tystion mo'u holi - rhai roedd hi'n dweud allai gadarnhau'r honiad.
Chafodd y dyn mae'n dweud wnaeth y sylw mo'i holi chwaith, ac mae'n dal i weithio i'r undeb.
'Gallai fod wedi costio fy mywyd'
Cafodd Charlotte Wathan ei phenodi i helpu i drawsnewid gêm y menywod yn 2018, ond yn ddiweddarach dechreuodd gamau cyfreithiol yn erbyn yr undeb.
Fe ddaeth y ddwy ochr i gytundeb fis diwethaf ac fe roddwyd y gorau i fynd â'r undeb i dribiwnlys.
Mae Undeb Rygbi Cymru'n dweud nad yw honiadau Ms Wathan wedi eu profi, a hynny'n dilyn ymchwiliad annibynnol trylwyr.
Maen nhw'n dweud na allan nhw wneud sylw pellach am fod ei hachos wedi ei setlo ers iddi wneud ei chyfweliad gyda'r BBC.
Ond maen nhw'n dweud eu bod nhw'n cymryd honiadau staff ynglŷn ag ymddygiad, agwedd a iaith o ddifrif.
Pe byddai honiadau'n cael eu cadarnhau, meddai'r undeb, yna bydden nhw'n gweithredu'n syth, gan ychwanegu bod dim lle i ymddygiad o'r fath o fewn yr undeb nac yn y gêm yng Nghymru.
Yn ôl Ms Wathan fe ddywedodd hi wrth URC yn 2021 fod y diwylliant yn "wenwynig" ac ei bod hi'n rhy sâl i ddychwelyd i'r gwaith oherwydd yr effaith ar ei hiechyd meddwl.
"Roedden nhw wedi fy llorio i," meddai. "Roedden nhw wedi ennill.
"Ar y pwynt yna, chi jyst yn meddwl does dim gobaith. A does neb eisiau cymryd hyn o ddifri'.
"Roedd hyn, yn ôl pob tebyg, yn un o brofiadau gwaetha' fy mywyd. Roedd yn dywyll ac yn annifyr ac fe allai fod wedi costio fy mywyd.
"Fe allen i fod wedi gadael fy mhlant heb fam, jyst oherwydd 'mod i'n ceisio datblygu gêm y menywod."
Gadael cyn gwneud cwyn
Mae cyn-aelod arall o staff, sydd am aros yn anhysbys, yn dweud iddi hithau hefyd brofi bwlio a gwahaniaethu ar sail rhyw o fewn yr undeb.
Mae hi wedi disgrifio ei chyfnod yno fel "clwyf agored" ac yn dweud iddi baratoi llawlyfr i'w gŵr rhag ofn iddi ladd ei hun.
"Doedd hyn ddim jyst yn ddigwyddiad fan hyn a fan draw," meddai. "Roedd 'na danseilio cyson ohona i neu fy rhyw."
"Mae'n mynd â chi i le tywyll, tywyll iawn pan allwch chi edrych ar eich gŵr a meddwl 'ti'n ddigon ifanc i gwrdd â rhywun arall ac mae fy merch i'n ddigon ifanc i gael mam arall'.
"Es i mor bell â dechrau paratoi llawlyfr i fy ngŵr ar beth i'w wneud tasen i'n marw."
Dywedodd wrth yr adran adnoddau dynol fod bwlio a gwahaniaethu ar sail rhyw yn golygu ei bod hi'n ystyried lladd ei hun.
Cafodd gyngor bod modd iddi wneud cwyn am y rheolwr dan sylw a symud i swyddfa arall o fewn yr un adeilad.
Roedd hi'n poeni y byddai dod â chwyn swyddogol yn gwneud pethau'n waeth, felly gadawodd yr undeb heb wneud hynny.
Dywedodd iddi roi enw'r person dan sylw i'r adran adnoddau dynol ac ystyried mynd i dribiwnlys, ond mynnodd yr undeb ei bod wedi gadael hi'n rhy hwyr ac nad oedd yna sail i'r gwyn.
"Ro'n nhw'n fy mwlio i, drwy ddweud bydden nhw'n rhoi gorchymyn costau yn fy erbyn," ychwanegodd.
"Wrth bwyso a mesur beth oedd bwysica' ar y pryd, fy nheulu a fy mywoliaeth, neu geisio trwsio sefydliad ro'n i 'di gadael, fe ddewisais i fy nheulu a fy mywoliaeth."
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw wedi ymchwilio i'w hachos gan ddilyn y drefn briodol.
Mae trydydd cyn-aelod o staff hefyd wedi honni achosion o wahaniaethu ar sail rhyw a hiliaeth.
'Marcio'u gwaith cartref eu hunain'
Dywedodd prif weithredwr newydd yr undeb, Steve Phillips ym mis Rhagfyr na fydden nhw'n gorffwys ar eu rhwyfau wrth daclo gwahaniaethu.
"Mae'r disgwyliadau'n uchel, ac felly dylai hi fod i bawb yn yr undeb, a byddwn ni'n sicrhau hynny," meddai.
Mae Chwarae Teg yn ymgyrchu dros gydraddoldeb yn y gweithle, a dyw Bethan Airey o'r mudiad ddim yn synnu i glywed honiadau fel hyn.
"Yn anffodus dydi o ddim yn syndod - mae aflonyddu yn dal i fod yn gyffredin yn y gweithle," meddai.
"Mae'n ymwneud â diwylliant y gweithle lle mae 'na ymddygiad bob dydd sy'n mynd yn groes i urddas menwyod, yn cael ei drin fel rhyw dynnu coes, a dyna beth sy'n rhaid mynd i'r afael ag o."
Mae'r gyfreithwraig cyflogaeth Fflur Jones yn bartner rheoli yng nghwmni cyfreithiol Darwin Gray. Mae hi'n dweud fod agweddau o'r fath yn gallu gwneud niwed mawr i fenywod.
"Mae hyn yn gallu bod yn hynod niweidiol," meddai.
"Mae'n effeithio ar hyder pobl, mae'n effeithio ar eu cyfleoedd nhw i gael dyrchafiad ac mae'n golygu mewn rhai enghreifftiau fod pobl yn gadael eu swyddi'n gyfan gwbl ac yn mynd i swyddi gyda chyflogau llai.
"Mae'n gallu cael effaith andwyol nid yn unig yn feddyliol, ond ar amgylchiadau unigolion."
Mae'r Aelod Seneddol a chyn-chwaraewr rhyngwladol, Tonia Antoniazzi, yn dweud fod merched o fewn yr undeb wedi codi pryderon gyda hi.
Mae hi am i Lywodraeth Cymru sefydlu corff annibynnol i ddelio â chwynion ynglyn â chyrff llywodraethu chwaraeon.
"Mae hyn cyn waethed â beth sydd wedi digwydd yng nghriced," meddai Aelod Seneddol Gŵyr.
"Does neb yn dal nhw i gyfri', maen nhw'n marcio eu gwaith cartre' nhw eu hunain felly beth yw'r pwynt?
"Sut y'n ni'n gwybod y bydd y sgandal yma'n cael ei datrys?"
'Dwy ochr i bob stori'
Mae Undeb Rygbi Cymru'n dweud eu bod yn flin i glywed sut mae'r unigolion yma yn teimlo, ac yn dweud y bydd yn gweithio gyda staff i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a bod yn gynhwysol, a bod datblygu gêm y merched yng Nghymru yn allweddol iddyn nhw.
Wrth gael ei holi ddydd Llun am ei ymateb i'r honiadau, dywedodd prif hyfforddwr tîm dynion Cymru, Warren Gatland, nad oedd yn "gwybod llawer am y peth".
"Rydw i wedi bod i ffwrdd ers Cwpan y Byd 2019, 'dych chi'n gwybod mwy am hyn na fi," meddai. "Dwi ddim wedi darllen llawer o beth mae'r cyfryngau'n dweud am bethau.
"Fel unrhyw beth, mae dwy ochr i bob stori a dwi'n gobeithio y byddech chi'n cael cydbwysedd o ran y ddwy ochr yn cael eu cynrychioli yn y ffordd gywir."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion yn y stori hon, mae gan BBC Action Line ddolenni i sefydliadau sy'n gallu cynnig cymorth a chyngor.
BBC Wales Investigates, Welsh Rugby Under the Spotlight, BBC One Wales am 20:00 ar 23 Ionawr neu gwyliwch ar BBC iPlayer o 17:00
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2023