Glaw trwm yn taro rhannau o'r gogledd ddwyrain
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu'r Gogledd bod glaw trwm yn y gogledd ddwyrain wedi achosi llifogydd mewn sawl man brynhawn Sadwrn.
Mae yna rybudd penodol i deithwyr osgoi y ffordd arfordirol - Ffordd Mostyn - rhwng tafarn y Packet House a gwaelod allt Maes-glas (Greenfield).
Deallir hefyd bod yna lifogydd ger y felin bapur ym mhentref Oakenholt yn Sir y Fflint ac mae yna rybudd bod llawer o ddŵr wedi aros ar y ffordd ger garej Esso yng Nghei Connah.
Ar y cyfryngau cymdeithasol mae adroddiadau bod strydoedd yn Wrecsam a Gresffordd wedi bod o dan fodfeddi o ddŵr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law trwm a tharanau ar draws siroedd Fflint a Wrecsam - y rhybudd yn weithredol o 09:00 fore Sadwrn tan hanner nos.
Roedden nhw wedi rhybuddio y gallai cartrefi a busnesau gael llifogydd sydyn wrth i gymaint â 50mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr.