Cau chwech o ysgolion uwchradd Abertawe oherwydd streicio

  • Cyhoeddwyd
Rali
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 50 o bobl i brotest gan undeb NASUWT y tu allan i'r Guildhall yn Abertawe brynhawn Iau

Mae chwech o ysgolion uwchradd yn Abertawe ar gau ddydd Iau ac eraill ond yn rhannol agored, wrth i athrawon streicio yn sgil anghydfod gyda'r cyngor sir.

Yn ôl undeb athrawon NASUWT, mae eu haelodau yn gweithredu oherwydd ymddygiad eu cyflogwyr, bygythiadau i sicrwydd swyddi a "methiant Cyngor Sir Abertawe i gydymffurfio â chytundebau cyfunol presennol".

Mae'r undeb yn dweud bod 92% o aelodau wedi pleidleisio o blaid streicio.

Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn "hynod siomedig" gyda'r penderfyniad.

Daeth tua 50 o bobl i brotest gan yr undeb y tu allan i'r Guildhall yn Abertawe brynhawn Iau.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol NASUWT, Dr Patrick Roach nad oedd y penderfyniad i streicio yn un hawdd.

Ychwanegodd fod eu haelodau "yn anfon neges gref na all eu cyflogwr eu bwlio na'u bygwth heb ddisgwyl unrhyw ganlyniadau".

"Ni all Cyngor Abertawe anwybyddu, na throi cefn ar gytundebau a gafodd eu llunio ar y cyd â NASUWT, sy'n elfen hanfodol o amodau gwaith athrawon.

"Ni fydd NASUWT yn oedi cyn cymryd camau diwydiannol pellach pe bai Cyngor Abertawe yn methu â dangos eu bod yn parchu a chynnal amodau sy'n ymwneud â chytundebau athrawon."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Pentrehafod yn un o chwech o ysgolion uwchradd yn Abertawe sydd ar gau ddydd Iau

Y gred yw bod yr anghydfod yn deillio o achos lle bu'n rhaid i athro gwrywaidd ymyrryd er mwyn gwahanu dau ddisgybl oedd yn ymladd.

Yn ôl undeb NASUWT, cafodd yr athro ei ddisgyblu cyn cael ei rhyddhau o unrhyw fai yn dilyn apêl. Ond yn dilyn ail apêl, cafodd yr athro ei ddiswyddo.

Dywedodd cynrychiolydd yr undeb yng Nghymru Neil Butler: "Mae'n rhaid i athrawon fod yn hyderus y byddan nhw'n cael eu cefnogi wrth ymyrryd mewn digwyddiadau treisgar er mwyn cadw eu hunain a'u disgyblion yn ddiogel.

"Dyw Cyngor Abertawe heb ddilyn ei bolisïau ei hun yn gywir ac wedi methu â glynu at gytundebau sydd ganddo â NASUWT.

"Ni fydd NASUWT yn goddef unrhyw gamdriniaeth o'i haelodau gan gyflogwyr ac mae'r streic yma yn dangos bod ein haelodau'n benderfynol o sefyll dros eu hawliau a'u hamddiffyniadau yn y gweithle."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Ysgol Uwchradd Bishop Gore yn y ddinas ond ar agor i rai blynyddoedd ddydd Iau

Dywedodd Helen Johns, aelod pwyllgor gwaith cenedlaethol NASUWT dros Abertawe fod y trafodaethau hyd yma wedi bod yn "aneffeithiol o ran sicrhau'r hyn yr ydym ni eisiau gan Gyngor Abertawe - sef gwneud iawn am y difrod sy'n deillio o dorri polisi difrifol".

'Hynod siomedig'

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Abertawe: "Rydym yn hynod siomedig bod NASUWT wedi cymryd y camau hyn, a fydd ond yn atal plant rhag cael cyfleoedd addysgol yn ein hysgolion uwchradd.

"Rydym yn gwrthod unrhyw honiad o gamdriniaeth gan gyflogwyr, erledigaeth neu fethiant i gydymffurfio â chytundebau cyflogaeth gydag athrawon.

"Mae'r cyngor wedi bod yn siarad yn gyson gyda'r undeb ac wedi bodloni â phedwar o'r pum gofyniad y maen nhw wedi eu cynnig er mwyn dod â'r anghydfod i ben.

"Mae'r anghydfod yma yn seiliedig ar achos unigol, a thra bod hyn yn parhau, am resymau cyfreithiol ac er mwyn diogelu cywirdeb y prosesau, ni allwn wneud sylw pellach."

Pynciau cysylltiedig