'Mae wir angen ysgolion Cymraeg newydd yn Abertawe'

  • Cyhoeddwyd
Grŵp Ti a Fi Sgeti
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp Ti a Fi Sgeti yn cwrdd bob wythnos i gymdeithasu drwy'r iaith Gymraeg, ond mae galw am agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg i fanteisio ar y galw cynyddol.

Mae 'na alw am agor mwy o ysgolion cynradd Cymraeg yn Abertawe.

Yn ôl ymgyrchwyr iaith lleol dyw'r ysgolion presennol ddim yn ddigon mawr i ymdopi â'r cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Daw hyn yn dilyn adroddiad diweddaraf Estyn, dolen allanol, sef y corff arolygu addysg, bod angen i'r sir gryfhau ei ddarpariaeth addysg Gymraeg.

Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn buddsoddi mwy na £150 miliwn i adeiladu ysgolion gwell.

Ychwanegon nhw y byddant yn parhau i sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd lle mae'r galw yn uchel.

'Dyw'r ysgol ddim yn agos ato ni'

Mae Hannah Poole yn rhan o grŵp Ti a Fi Sgeti. Mae'r grŵp yn cwrdd bob wythnos i gymdeithasu drwy'r iaith Gymraeg.

Ond wrth gynllunio dyfodol ei phlentyn, mae Hannah yn poeni am y camau nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Hannah Poole: "Os fydd ddim lle sai'n gwbod beth ni mynd i wneud"

"Mae bachgen bach fi yn y meithrin ar hyn o bryd, a ni newydd treial cael lle i fe yn y nursery, a gaethon ni cael dweud does dim llawer o lefydd yn yr ysgol felly falle ni'n gorfod edrych tu allan i pellter ni.

"Dyw'r ysgol ddim yn agos ato ni i ddechrau gyda, ma rhaid i ni deithio yn y car 'ta beth. Yr ysgol nesaf yw Tirdeunaw a mae hynny'n tua pum milltir felly ymhellach eto felly mae ddim yn dda.

"Mae mam-gu a tad-cu yn helpu hefyd felly mae'n effeithio'r teulu i gyd.

"Ni eisiau addysg Gymraeg, felly 'sa'i 'di rhoi lawr ysgolion Saesneg o gwbl. So os fydd ddim lle 'sa i'n gw'bod beth ni mynd i wneud."

'Mae'r plant yn dioddef'

Dywed Julia Evans, arweinydd grŵp 'Ti a Fi' Sgeti, bod diffyg ysgolion cynradd Cymraeg yn bryder.

"Rwy'n clywed gan rieni nad oes digon o le, nad oes digon o fuddsoddiant, felly mae'r plant yn dioddef," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Julia Evans: "Teimlo ei bod hi'n haws anfon eu plant i ysgolion Saesneg"

"Mae'r sefyllfa'n anodd, does dim digon o ysgolion neu grwpiau Cymraeg, felly mae rhai rhieni'n teimlo bod y Gymraeg yn ormod o ymdrech oherwydd nad oes digon o gefnogaeth.

"Felly maen nhw'n teimlo ei bod hi'n haws anfon eu plant i ysgolion Saesneg oherwydd eu bod yn teimlo y bydd y plentyn yn dioddef yn yr ysgolion Cymraeg."

'Ddim digon da'

Ar hyn o bryd mae 10 ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor Abertawe, mae tri allan o'r 10 ysgol yn orlawn, tra bod dwy arall bron yn llawn.

Mae gan Ysgol Pontybrenin yng Ngorseinon le ar gyfer 501 o ddisgyblion, ac ar y gofrestr ym mis Chwefror 2022 roedd 549 o ddisgyblion.

Mae lle i 320 o ddisgyblion yn Ysgol Llwynderw yn y Mwmbwls, ac roedd ganddi 326 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae gan Ysgol y Login Fach yn Waunarlwydd le ar gyfer 214 o ddisgyblion ac mae ganddi 220 ar y gofrestr.

Mae dwy ysgol, Ysgol Tirdeunaw ac Ysgol Tan y Lan, wedi cael eu hailadeiladu ar safle newydd i dderbyn mwy o blant eleni.

Ond nid yw hynny'n ddigon yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg Abertawe.

"Mae'n dda bod ysgol newydd wedi dod i Dirdeunaw a Tanylan," meddai.

"Ond beth ma nhw wedi ei wneud yw symud ysgolion allan o'r ardaloedd lle o nhw.

"Yn hytrach na ychwanegu ysgol lle bydd yna addysg Gymraeg mewn mwy na un man, ma nhw'n canoli'r ysgol a'r addysg Gymraeg i un man ac wedyn mae'r plant yn gorfod teithio lot."

Disgrifiad o’r llun,

Heini Gruffudd: "Mae'r plant yn gorfod teithio lot"

Dywed hefyd fod rhai lleoliadau yn Abertawe sydd heb ysgolion cynradd Cymraeg.

"Yn yr ardaloedd hynny ychydig iawn o bobl sy'n cael addysg Gymraeg oherwydd does dim ysgol yn lleol ac mae'n rhaid iddyn nhw deithio os ydyn nhw eisiau hynny.

"Ar hyn o bryd, does gan Cilâ a Dynfant ddim ysgolion cyfrwng Cymraeg a dim ond tua 4% sydd ag addysg Gymraeg.

"Gallwch gymharu hynny ag ardaloedd fel Gorseinon sydd ag Ysgol Pontybrenin, ysgol gynradd Gymraeg a 28% o'r plant yno yn cael addysg Gymraeg."

Ond mae Heini'n dweud oherwydd bod rhai ysgolion cynradd Cymraeg yn llawn, mae rhai rhieni yn penderfynu peidio ag anfon eu plant i'r ysgolion yna.

"Mae wir angen ysgolion Cymraeg newydd yn Abertawe".

'Gwnaeth fywyd yn eithaf anodd'

Un sy'n cefnogi hynny yw Keith Collins.

Bu'n rhaid i'w ŵyr pump oed, Harry, deithio bron i bum milltir ar fws o Fforestfach i gyrraedd yr ysgol gynradd Gymraeg agosaf yng Ngorseinon.

Ers hynny mae'r teulu wedi symud i Gorseinon, gan ddweud mai un o'r prif resymau oedd bod yn agosach at yr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Keith Collins: "Os oes yna ysgolion cyfrwng Cymraeg yna bydd pobol yn mynd yno"

"Roedd Harry yn bump oed pan fu'n rhaid iddo fynd ar fws yn y bore yn Fforestfach am 07.45 ac yna dod yn ôl am tua 15.45.

"Roedd yn eitha' daith iddo fe ac roedd yn aml yn flinedig iawn, roedd y tywydd yn aml yn wael hefyd. Gwnaeth fywyd yn eithaf anodd.

"Dyna'r prif reswm iddyn nhw benderfynu symud, mae eu rhieni eisiau iddyn nhw gael addysg cyfrwng Cymraeg.

"Roedd yn anodd i ni, roedden nhw'n byw yn union y tu ôl i ni ac o ni'n helpu gyda'r gofal plant ond mae'n anoddach nawr.

"Mae digon o dystiolaeth sy'n dangos os oes yna ysgolion cyfrwng Cymraeg yna bydd pobol yn mynd yno. Un peth sy'n digalonni pobl yw'r ffaith bod yn rhaid iddyn nhw deithio."

'Parhau i sefydlu ysgolion newydd'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Abertawe,:"Mae Cyngor Abertawe ynghyd â Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £150m mewn adeiladu ysgolion gwell ac eleni yn unig mae ysgolion newydd gyda mwy o gapasiti a chyfleusterau newydd wedi agor ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. YGG Tirdeunaw ac YGG Tan-y-lan.

Ffynhonnell y llun, Google

"Ein nod yw cynyddu'n sylweddol nifer y disgyblion a theuluoedd sy'n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol fel y nodir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.

"Byddwn yn parhau i sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd neu gynyddu capasiti mewn ardaloedd lle mae galw mawr ac yn nodi ardaloedd lle mae addysg cyfrwng Cymraeg yn bell i'w cyrraedd ar hyn o bryd.

"Rydym wedi diwygio dalgylchoedd i ddod â'r ysgolion yn nes at ble mae'r disgyblion yn byw ac mae ein gweledigaeth yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hefyd yn datgan y byddwn yn anelu at gymhwyso'r teithio i 15 munud i sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter rhesymol o'u cartrefi."

Pynciau cysylltiedig