Pum munud gyda'r Athro Jerry Hunter
- Cyhoeddwyd
Yr Athro Jerry Hunter yw cadeirydd newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Mae'r Athro, sy'n wreiddiol o Cincinnati yn yr Unol Daleithiau ond bellach yn byw yn Nyffryn Nantlle, yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn adnabyddus am ei waith fel awdur.
Bu Cymru Fyw'n ei holi am ei obeithion a'i uchelgais ar gyfer ei rôl newydd gyda'r Theatr Genedlaethol.
Beth yw'ch gobeithion ar gyfer eich rôl newydd fel cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru? Ydy o'n bennod newydd i'r theatr dan eich arweiniad chi a'r cyfarwyddwr artistig newydd Steffan Donnelly?
Dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy - mae'n gyfnod cyffrous iawn yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru gyda Steffan Donnelly yn gyfarwyddwr artistig (ers 2022).
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn hollbwysig i unrhyw un sy'n poeni am yr iaith Gymraeg ac am y celfyddydau yng Nghymru ac maen nhw wedi, ers blynyddoedd, darparu arlyw o safon uchel ond rŵan efo Steffan mae'n gyfnod newydd sy'n hynod gyffrous.
Mae yn y job ers blwyddyn ond dyma'r tro cyntaf iddo lansio ei raglen artistig ei hun. Mae'n mynd i gyfeiriadau newydd ac mae'n braf iawn cael cefnogi beth mae o'n 'neud a'r drefn newydd gyda fo ac Angharad Jones Leefe yn gyd-gyfarwyddwyr.
Wrth gwrs mae 'na heriau - yn dod allan o covid mae 'na heriau o ran cael cynulleidfaoedd yn ôl i'r theatr mewn rhai ardaloedd. Mae'n rhaid i bobl feddwl yn greadigol iawn ond mae hynny'n digwydd - os chi'n edrych ar rhaglen gyntaf Steffan fel cyfarwyddwr artistig mae'n wych, mae 'na wyth cynhyrchiad yn teithio dros wyth mis.
Mae'n uchelgeisiol ac yn amrywiol iawn o ran yr arlyw gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae 'na ddrama Ewropeaidd bwysig, Rhinoseros. Dwi ddim yn credu fod Rhinoseros erioed wedi cael ei llwyfannu yn Gymraeg. Mae'n ddewis gwych gan Steffan achos mae'n hynod berthnasol heddiw achos mae poblyddiaeth wedi codi ei phen gymaint yn oes Donald Trump, Vladimir Putin a rhai pethau ym Mhrydain hefyd.
Mae sioe Y Swyn yn wych ar gyfer plant. Mae'n sioe ddwyieithog gyda'r Gymraeg a iaith arwyddo BSL felly mae'r rhaglen yn uchelgeisiol o ran cyrraedd a gwasanaethu gwahanol gynulleidfaoedd ac mae'n bwysig iawn o ran bod yn gynhwysol.
Ydy'r byd theatr yng Nghymru mewn lle da?
Dwi'n meddwl bod o mewn lle da iawn - oherwydd dwyster ac ehangder y doniau a'r gallu creadigol o ran cyfarwyddwyr, actorion a dramodwyr.
Yr hyn sy' wastad yn fregus yw'r ansicrwydd o ran parhad ariannu a chefnogaeth y Llywodraeth a Chyngor Celfyddydau Cymru. Dyna'r cwestiwn i unrhyw un sy'n gweithio yn broffesiynol yn y diwydiant creadigol yw - beth yw'r dyfodol o ran arian ni a'r gallu i gynnal?
Ac mae'r Gymraeg yn iaith leiafrifol wrth gwrs ond o ran safon ac uchelgais, mae'r awydd i gyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd yno ac mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gwneud popeth gelli di ddisgwyl gan gwmni cenedlaethol.
Beth sy' ar y gweill gan y Theatr Genedlaethol ar gyfer wythnos Eisteddfod?
Mae'r rhaglen yn cael ei perfformio mewn nifer o leoliadau ar draws maes yr Eisteddfod.
Mae Steffan a Theatr Genedlaethol Cymru wedi gweithio yn galed i defnyddio potensial, adnoddau a chreadigrwydd y Theatr i fywiogi maes yr Eisteddfod. Ac hefyd defnyddio wythnos yr Eisteddfod i egnïo ein sector theatr.
Mae Parti Priodas, drama newydd gan y bardd Gruffudd Owen, yn bold iawn ac yn ddrama gomedi hwyliog. Mae 'na ddrama ar gyfer plant, Yr Hogyn Pren, sy'n addo bod yn hudolus.
Bydd nifer o ddramâu byr ac hefyd y llwyfanu monologau fel Rhyngom gan Sioned ErIn Hughes (Enillydd y Fedal Ryddiaith 2022) felly mae'n dda bod Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfanu gwaith sy'n deillio o ddiwylliant yr eisteddfod.
Mae amrywiaeth a safon yr uchelgais artistig yn wych ac mae'n wych i fi fel cadeirydd allu bod yn gefn iddyn nhw a helpu o ran ochr llywodraethiant y theatr i sicrhau fod 'na gefnogaeth a chynhaliaeth iddi nhw.
Pa gynhyrchiadau theatrig sy' wedi gwneud argraff arno chi yn bersonol?
Dwi'n hoff o amrywiaeth eang iawn yn bersonol - dwi'n hoffi pob math o bethau o glasuron Cymraeg fel dramâu Saunders Lewis a Shakespeare yn Saesneg. Hefyd clasuron y theatr absẃrd a theatr fodernaidd fel Samuel Beckett.
O ran dramâu gwreiddiol mae'n wych gweld rhai da yn ystod y blynyddoedd diwethaf - pethau fel Dafydd James efo Tylwyth a Llwyth. Dwi'n hoffi pob math o bethau ond dwi ddim yn gymaint o ffan o sioeau cerdd. Ond mae 'na le i gerddoriaeth a chanu mewn theatr, wrth gwrs.
Mae theatrau a neuaddau Cymru wedi wynebu blynyddoedd heriol oherwydd Covid - beth yw uchelgais y Theatr Genedlaethol o ran teithio i bob cwr o'r wlad?
Yn sicr mae'r ymrwymiad i deithio yn hollbwysig. Mae cynhyrchiadau sy'n llenwi theatrau o faint canolig yn bwysig o ran sector ac ecoleg y theatr yng Nghymru.
Hefyd mae'n bwysig ein bod yn sicrhau fod 'na gynnyrch gwreiddiol ar gyfer plant a phobl ifanc ac hefyd mae 'na brosiectau sy' ddim gymaint yn llygaid y cyhoedd ar hyn o bryd sy'n bwysig o ran cenhadaeth Theatr Genedlaethol Cymru, fel cydweithio efo ambell i gwmni a chorff arall fel project Ar y Dibyn sy'n defnyddio theatr i archwilio problemau dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.
Felly mae 'na brosiectau eraill hefyd sy'n cyrraedd unigolion a chymunedau ledled Cymru tu hwnt i beth sy'n digwydd ar lwyfan mewn theatr.
Chi hefyd yn nofelwr ac yn cyflwyno podlediad Yr Hen Iaith gyda Richard Wyn Jones - beth ydy chi'n mwynhau am y gwaith amrywiol yma?
Dwi hefyd yn academydd ac yn ysgolhaig - fy mhrif waith yw darlithio mewn prifysgol. Fel nofelydd dwi yn ysgrifennu yn greadigol fy hun ac mewn podlediad dwi'n trafod yr hyn dwi'n neud fel ysgolhaig mewn ffordd mwy ysgafn - mewn ffordd dwi'n ymwneud efo llenyddiaeth yn fy mywyd mewn sawl ffordd - fel ysgolhaig, fel darlithydd, fel awdur, fel darlledwr neu bodlediwr.
Oes diddordeb gennych mewn ysgrifennu drama lwyfan?
Dwi wedi ysgrifennu ambell i ddrama lwyfan - y drwg ydi dwi wedi bod mor brysur felly dwi ddim wedi cael cyfle i roi'r maen ar y wal.
Pan ydych chi'n ysgrifennu llyfr rydych chi'n rheoli popeth ond mae drama lwyfan mor gydweithredol, felly mae hynna yn fwy heriol i rhywun fel fi sy' wedi arfer gweithio ar ei ben ei hun. Mae profi'r dyfroedd ychydig bach wedi neud i fi werthfawrogi'n fwy gymaint o gamp yw creu cynhyrchiad theatrig llawn, llwyddiannus - mae'r amser a'r ymroddiad i gydweithio yn beth gwych felly mae'n braf tystio i hynny'n digwydd o flaen fy llygaid mewn ffordd mor gyffrous yn Theatr Genedlaethol Cymru.