Lluniau: Wrecsam yn glanio'n America
- Cyhoeddwyd

Paul Mullin yn brwydro efo Andrey Santos am y bêl
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar daith yn chwarae yn erbyn Chelsea, Manchester United, ac ail dimau LA Galaxy a Philadelphia Union.
Colli oedd hanes Wrecsam yn gêm gyntaf y daith nos Fercher 19 Gorffennaf, a hynny 5-0 yn erbyn Chelsea. I roi darlun o'r noson, fe sgoriodd y cewri o Lundain dair gôl yn 10 munud ola'r gêm, a oedd efallai ychydig yn annheg ar y tîm o Gymru.
Ond er gwaetha' y golled drom mae yna dair gêm arall i Wrecsam geisio creu argraff yn America cyn i'r tymor gychwyn yn erbyn yr MK Dons ar y Cae Ras ar 5 Awst.
Dyma gasgliad o luniau o'r siwrne i America, y paratoadau, a'r gêm gyntaf yn erbyn Chelsea.

Luke Young a Ben Tozer, y capten a'r is-gapten, wrth y llyw i fynd â'r garfan i'r Unol Daleithiau

Y croeso i'r garfan ar yr awyren

Paul Mullin a Jacob Mendy yn y rhes flaen yn edrych 'mlaen at y daith

Y bytholwyrdd Ben Foster yn mynd i'r sesiwn ymarfer gyntaf ar ôl glanio

Yr ymosodwr Ollie Palmer yn ymarfer

Y rheolwr Phil Parkinson yn y sesiwn ymarfer gyntaf yn North Carolina

Y garfan yn cymryd golwg gyntaf o Stadiwm Kenan Memorial, sy'n dal dros 50,000. Fel arfer mae'n gartref i dîm pêl-droed Americanaidd y North Carolina Tar Heels, sef tîm yr University of North Carolina at Chapel Hill

Jordan Davies yn rhoi cynnig ar ychydig o bêl-droed Americanaidd

Ben Foster, Ollie Palmer, Ben Tozer a Rob Lainton yn mwynhau yn y pwll

Aaron Hayden yn arddangos ei sgiliau pêl-fasged

Un o ffigyrau pwysicaf Clwb Pêl-droed Wrecsam dros y blynyddoedd diweddar, Bryan Flynn, yw llysgennad y clwb ar y daith i America

Mark Howard yn stopio am lun gyda chefnogwr

Paul Mullin a Elliot Lee yn ymlacio cyn y gêm

Roedd digon o swfenîrs ar gael i nodi'r achlysur

Diwrnod y gêm, a'r stadiwm yn llawn ar gyfer yr achlysur

Y timau'n ysgwyd dwylo cyn y chwiban gyntaf

Fe sgoriodd y gŵr o'r Iseldiroedd, Ian Maatsen, ddwy gôl yn yr hanner cyntaf

Andy Cannon i'w weld yn siomedig wedi i Wrecsam ildio yr ail gôl

Golygfa gyffredin i gefnogwyr Wrecsam; Ben Tozer gyda thafliad hir

Will Boyle yn ei gêm gyntaf dros y clwb

Rhai o gefnogwyr Wrecsam yn gweiddi ychydig o anogaeth i'r tîm

Phil Parkinson yn cynnig cyngor i'w garfan yn ystod y gêm

Ollie Palmer yn brwydro am y bêl yn erbyn Conor Gallagher ac Alfie Gilchrist

Siom am y canlyniad, ond mae'r cefnogwyr dal llawn balchder... ymlaen i Los Angeles!
Hefyd o ddiddordeb: