Lluniau'r Sioe Frenhinol: Dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sioe Fawr wedi dechrau yn Llanelwedd a'r torfeydd wedi dod yn eu miloedd i ganolbarth Cymru.
Mae sôn bod mwy o anifeiliaid yn cystadlu eleni nac erioed o'r blaen, ac felly mae digon i'w weld yma.
Dyma rai o'r golygfeydd o'r Sioe Ddydd Llun.

Llewellyn, Ieuan ac Eleri o Gaerdydd yn mwynhau yn y Pentref Fwyd

Ar garlam rownd y prif gylch

Y sied ddefaid yn ei gogoniant yn gynnar fore Llun

Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael ei holi gan Iwan Griffiths

Richard Tucker sy'n ffermio yn y Gŵyr yn paratoi y gwartheg charolais

Emyr o Lithfaen ym Mhen Llŷn yn cystadlu gyda'i fochyn yn y categori saddleback

Bella, sy'n dair oed ac o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau rhoi mwytha' i'r geifr

Trio (Steffan Lloyd Owen, Bedwyr Gwyn Parri ac Emyr Wyn Gibson) yn siarad efo Shân Cothi cyn perfformio'n fyw ar BBC Radio Cymru

Roedd torf fawr yn edrych ar y sioe gŵn ble roedd y ci'n neidio i'r dŵr i nôl gwahanol bethau

Defaid Balwen mewn rhes yn barod am y feirniadaeth

Mererid, gyda'i brodyr Pedr a Brynmor o ardal Aberteifi yn rhoi cynnig ar y peirianwaith

Canolbwyntio'n hollbwysig i'r gof

Mae rhywbeth at ddant pawb yn y pafiliwn bwyd

Erbyn diwedd y prynhawn roedd y cawodydd wedi stopio ac roedd yr awyr las i'w gweld

Coco (tair oed) a'i brawd bach Axel (blwydd oed) yn cael seibiant yn yr haul ar ddiwedd p'nawn
Hefyd o ddiddordeb: