Y Sioe Frenhinol yn dathlu 60 mlynedd yn Llanelwedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sioe Frenhinol flynyddol wedi bod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Cymru bron bob blwyddyn ers 1904.
Mae'n rhan amlwg o fywyd amaethyddol y genedl, gyda degau o filoedd yn heidio i'r canolbarth i gystadlu a mwynhau.
Roedd y Sioe yn teithio ledled Cymru am y degawdau cyntaf, tan i safle parhaol gael ei phrynu yn Llanelwedd yn 1963.
Felly gyda'r garreg filltir o 60 mlynedd yn cael ei chyrraedd eleni, dyma rywfaint o'r golygfeydd o'r Sioe dros y blynyddoedd.
Lluniau gyda diolch trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dolen allanol, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, dolen allanol (CAFC), archif y BBC a Chomisiwn Henebion Brenhinol Cymru, dolen allanol (RCAHMW - Hawlfraint y Goron)
Hefyd o ddiddordeb: