Cyfartal rhwng Morgannwg a Sir Derby

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Getty Images

Cyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Sir Derby wrth i Derby fatio drwy'r diwrnod olaf i osgoi colled.

Ar ôl i Forgannwg gyrraedd 521-8 yn eu batiad cyntaf, dim ond 318 wnaeth Derby ei sgorio mewn ymateb.

Fe wnaeth Morgannwg ofyn i Derby fatio eto, ond ni wnaeth y penderfyniad ddwyn ffrwyth.

Cyrhaeddodd Sir Derby 360-0 ar y diwrnod olaf, i sicrhau mai rhannu'r pwyntiau mae'r timau yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Pynciau cysylltiedig