Caerdydd: Plentyn wedi ei gloi mewn meithrinfa ar ôl cau

  • Cyhoeddwyd
Meithrinfa Pysen Bêr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y plentyn ar ei ben ei hun am hyd at 15 munud ym Meithrinfa Pysen Bêr yn ardal Llwynbedw

Fe gafodd plentyn ei gloi mewn meithrinfa yng Nghaerdydd ar ôl cau am y diwrnod fis diwethaf.

Roedd y plentyn ar ei ben ei hun am hyd at 15 munud ym Meithrinfa Pysen Bêr yn ardal Llwynbedw (Birchgrove) o'r brifddinas ar 13 Gorffennaf.

Dywedodd y feithrinfa fod eu meddalwedd yn dangos fod y plentyn wedi ei gasglu pan nad oedd wedi, yn dilyn ymchwiliad.

Dywedodd Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) eu bod wedi dilyn y camau priodol yn unol â'u polisïau.

Mae gan Pysen Bêr ddwy feithrinfa - ger Ysgol Gynradd Llwynbedw ac Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen.

Mae'r feithrinfa yn Llwynbedw'n gofalu am 44 o blant rhwng chwech wythnos oed a phum mlwydd oed, ac mae wedi ei rhannu yn bedair ardal.

Fe wnaeth y feithrinfa wrthod siarad â BBC Cymru, ond mewn datganiad ar wefan WalesOnline fe ddywedon fod diogelwch plant yn "flaenoriaeth" a bod mesurau newydd wedi eu cyflwyno i sicrhau na fyddai'n digwydd eto.

Ychwanegon: "Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliodd y tîm rheoli ymchwiliad mewnol trylwyr i fynd i'r afael â'r mater a chymerodd gamau ar unwaith drwy gynnwys y corff rheoleiddio priodol, AGC, i sicrhau bod ein hymchwiliad yn cael ei gynnal gyda'r proffesiynoldeb mwyaf a bod camau'n cael eu cymryd i atal unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol."

Dywedodd Meithrinfa Pysen Bêr eu bod nawr wedi cyflwyno cam ychwanegol lle mae'n rhaid i rieni neu ofalwyr nodi eu bod wedi casglu eu plentyn ar ddiwedd y dydd.

Dywdodd AGC: "Ry'n ni'n parhau i gydweithio'n agos gyda'r darparwr a'r awdurdod lleol i sicrhau diogelwch yr holl blant ry'n ni'n eu gwasanaethu."

Pynciau cysylltiedig